Fe fydd angen £1.4m o arian ychwanegol i dalu am blismona rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd ym Mehefin.
Yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig, bydd y grant arbennig yn cynorthwyo Heddlu De Cymru i ymdopi â chostau diogelwch ychwanegol gêm glwb fwyaf Ewrop.
Bydd y gêm yn cael ei chynnal yn Stadiwm Principality ar Fehefin 3 ac mae disgwyl i’r digwyddiad ddenu cynulleidfa ryngwladol o gannoedd o filiynau, a chyfrannu £45m i economi Caerdydd.
Cyn hynny, fe fydd rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr y menywod yn cael ei chynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Fehefin 1, ac mae disgwyl i’r digwyddiad ddenu chwarter miliwn o bobol i’r brifddinas.
“Rwy wrth fy modd, ein bod ni wedi darparu’r gronfa yma i Heddlu De Cymru. Dw i’n gwybod bod y ddinas gyfan yn edrych ymlaen at groesawi ymwelwyr y gêm – digwyddiad fydd yn ddiogel a llwyddiannus,” meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns.