Fe fydd dedfryd dyn oedd wedi honni y byddai cyfnod o garchar yn arwain at golli cynnig swydd gyda Chlwb Criced Swydd Gaerlŷr, yn cael ei hadolygu.
Cafodd Mustafa Bashir, 34, ddedfryd o garchar ohiriedig yn Llys y Goron am ymosod ar ei wraig, Fakhara Karim.
Roedd e’n honni bod y clwb criced wedi cynnig swydd iddo, ond mae’r clwb wedi gwadu’r honiadau, ac fe aeth eu prif weithredwr Wasim Khan at Wasanaeth Erlyn y Goron i gynnig tystiolaeth.
Fe fydd gwrandawiad pellach yn cael ei gynnal ddydd Gwener.
Honiadau
Yn ôl erlynwyr, roedd Mustafa Bashir wedi ymosod ar ei wraig â bat criced, ac wedi ei gorfodi i yfed canyddion.
Cafodd e ddedfryd o 18 mis dan glo, wedi’i gohirio am ddwy flynedd ar ôl cyfaddef ei fod e wedi ymosod arni gan achosi niwed corfforol, ymosod drwy guro, dinistrio eiddo a defnyddio sylwedd dinistriol gyda’r bwriad o anafu.
Mae e wedi cael gorchymyn i fynychu cwrs ‘adeiladu perthnasau’ a gorchymyn ataliol am gyfnod amhenodol.
Mae’r Barnwr Mansell, y barnwr yn yr achos, wedi cael ei beirniadu am ddweud bod Fakhara Karim yn ddynes ddeallus ac nad oedd hi felly’n ddiniwed.