Paul Clement (Llun: golwg360)
Dydy penodi rheolwr newydd ddim yn rhoi mantais ychwanegol i dîm pêl-droed Middlesbrough yn Stadiwm Liberty y prynhawn yma, yn ôl prif hyfforddwr Abertawe, Paul Clement.
Dywedodd wrth golwg360 y bydd chwarae ar eu tomen eu hunain yn fwy o fantais i’r Elyrch nag y bydd dylanwad Steve Agnew ar yr ymwelwyr.
Wrth wfftio’r hyn sy’n cael ei alw’n ‘bounce effect‘, dywedodd Paul Clement: “Dydych chi byth yn gwybod fod hynny’n mynd i ddigwydd.
“Mae’n well gyda chi bob amser chwarae ar eich tomen eich hun, mae hynny’n fantais.
“Mae’n anodd egluro ac mae mantais o chwarae gartref yn ystadegol ar draws bob chwaraeon. Mae e’n digwydd.”
Ond fe ddywedodd fod Middlesbrough yn amlwg yn teimlo bod newid rheolwr yn “risg oedd yn werth ei gymryd”.
‘Pêl-droed ffantasi’
Yn ôl Paul Clement, mae e wedi rhoi’r gorau i chwarae “pêl-droed ffantasi” drwy geisio darogan canlyniadau gemau yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn.
Mae’r Elyrch yn ail ar bymtheg yn y tabl, ond mae ganddyn nhw’r un nifer o bwyntiau (27) â Hull, sydd yn ddeunawfed ac yn y tri safle isaf.
Byddan nhw’n aros yn y safle hwnnw ar ôl heddiw hyd yn oed pe baen nhw’n ennill, ar ôl i Crystal Palace ymestyn eu mantais drostyn nhw i bedwar pwynt.
Ond mae Middlesbrough eisoes bum pwynt y tu ôl i’r Elyrch, a’r Cymry wedi ennill eu tair gêm diwethaf ar eu tomen eu hunain.
Dywedodd Paul Clement: “Dw i wedi llunio rhestr o ble mae’r timau a phwy sy’n chwarae pwy tan y diwedd.
“Ond dw i ddim yn darogan y canlyniadau oherwydd dydy e byth yn troi allan fel hynny mewn gwirionedd.
“Pêl-droed ffantasi yw hynny, nid pêl-droed go iawn. Dyw e ddim yn real, felly dw i ddim yn ei wneud e.
“Dw i ddim yn dweud bod triphwynt sicr, neu bwynt, neu ddim. Mae’n wastraff amser.”
Ond dydy Middlesbrough ddim wedi ennill yr un gêm gynghrair ers iddyn nhw guro Abertawe o 3-0 ar Ragfyr 17.
Trafodaethau
Fe fydd perchnogion Americanaidd yr Elyrch, Steve Kaplan a Jason Levien yn Abertawe dros y dyddiau nesaf i drafod eu cynlluniau ar gyfer y tymor nesaf.
Gydag ansicrwydd ynghylch statws yr Elyrch fel tîm Uwch Gynghrair, fe fydd cryn drafod ar gyllidebau a throsglwyddiadau.
Dywedodd Paul Clement: “Ry’n ni’n ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd wrth i dîm fynd o’r gynghrair uchaf ac i lawr un adran.
“Mae’r goblygiadau o ran y gyllideb yn anferth ac mae gyda ni chwaraewyr fydd yn dymuno parhau i chwarae ar y lefel uchaf – boed hynny yma neu mewn gwlad arall.
“Byddwn i’n naïf i gredu nad yw’r chwaraewyr yn trafod â’u teuluoedd a’u hasiantiaid ynghylch beth fyddai’n digwydd pe baen ni’n mynd i lawr.
“Rhaid i ni fod yn agored am hynny – mae’n digwydd bob amser – ond ry’n ni’n canolbwyntio ar aros yn y gynghrair hon.”
Y timau
Fe fydd cefnwr chwith Abertawe, Martin Olsson yn dychwelyd ar ôl anaf i’w ffêr, ac mae’r cefnwr de Kyle Naughton yn holliach ar ôl anaf i linyn y gâr.
Mae amddiffynnwr Middlesbrough, Daniel Ayala ar gael ar ôl anaf i linyn y gâr.
Cael a chael fydd hi o ran George Friend a Calum Chambers, sy’n parhau i wella ar ôl anafiadau.