Mae’r Bala wedi cyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru am y tro cyntaf erioed, ar ôl curo Caernarfon o 3-1 yn Y Rhyl.

Byddan nhw’n herio’r Seintiau Newydd yn y rownd derfynol yn Stadiwm Prifysgol Bangor ar Ebrill 30 (2 o’r gloch).

Caernarfon 3 Y Bala 1

Aeth y Cofis ar y blaen wrth i Stuart Jones ddarganfod ei rwyd ei hun, cyn i’r eilydd Lee Hunt unioni’r sgôr i’r Bala.

Aeth Y Bala o nerth i nerth wedyn, a sgorio dwy gôl hwyr – y gyntaf gan Kieran Smith cyn i Lee Hunt sgorio’i ail.

Y Seintiau Newydd 3 Gap Cei Conna 0

Roedd buddugoliaeth gyfforddus i’r Seintiau Newydd yn eu gêm gyn-derfynol nhw yn erbyn Gap Cei Conna.

Daeth y tair gôl yn y 19 munud olaf.

Adrian Cieslewicz sgoriodd y gyntaf ar ôl 71 munud, wrth rwydo oddi ar groesiad Jamie Mullen.

Aeron Edwards sgoriodd yr ail gôl dair munud yn ddiweddarach, a daeth y drydedd gan Jamie Mullen ar ôl 81 munud i fynd â’r Seintiau Newydd drwodd i’w pedwaredd ffeinal o’r bron a rhoi’r cyfle iddyn nhw fynd am drydydd trebl o’r bron – y gynghrair, cwpan y gynghrair a Chwpan Cymru.