Crewe 1–2 Casnewydd        
                                                             

Rhoddwyd llygedyn o obaith i Gasnewydd yn eu brwydr i aros yn yr Ail Adran gyda buddugoliaeth ddramatig oddi cartref yn erbyn Crewe brynhawn Sadwrn.

Roedd yr Alltudion ar ei hôl hi ar yr egwyl ar Gresty Road, ond tynodd Dan Butler un yn ôl cyn i ymdrech hwyr Joss Labadie’r gipio’r tri phwynt i’r ymwelwyr o Gymru.

Crewe a oedd tîm gorau’r hanner cyntaf ac roeddynt yn llawn haeddu bod ar y blaen wrth droi diolch i gôl Callum Cooke o groesiad Ryan Wintle.

Ond, roedd Casnewydd, yn eu gêm gyntaf ers diswyddiad Graham Westley yn ystod yr wythnos, yn well wedi’r egwyl.

Unionodd Dan Butler y sgôr gyda foli wyth munud ar ôl troi ac fe gipiodd Labadie’r tri phwynt i’r ymwelwyr o dde ddwyrain Cymru funud o ddiwedd y naw deg.

Mae’r Alltudion yn aros ar waelod tabl yr Ail Adran er gwaethaf y fuddugoliaeth ond yn cau’r bwlch ar Hartlepool yn yr ail safle ar hugain i naw pwynt gydag un gêm ar ddeg yn weddill.

.

Crewe

Tîm: Garratt, Turton (Kirk 90+4’), Ray, Nugent, Bakayogo, Cooke (Cooper 62’), Jones, Bingham, Wintle, Bowery, Kiwomya (Ainley 78’)

Gôl: Cook 22’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Pipe (Barnum-Bobb 71’), Nelson, O’Brien, Butler, Samuel (Gordon 85’), Bennett, Labadie, Owen-Evans, Rigg (Demetriou 51’), Bird

Gôl: Butler 53’, Labadie 89’

Cardiau Melyn: Bird 46’, Labadie 85’

.

Torf: 3,725