Caerdydd 1–1 Birmingham
Cipiodd Lukas Jutkiewicz bwynt i Birmingham wrth iddynt ymweld â Stadiwm Dinas Caerdydd yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.
Aeth yr Adar Gleision ar y blaen gyda chic gosb Joe Ralls yn gynnar yn yr ail hanner ond bu rhaid iddynt fodloni ar bwynt yn unig yn y diwedd wedi gôl hwyr i’r ymwelwyr.
Wedi hanner cyntaf di fflach a di sgôr, roedd Caerdydd yn well wedi’r egwyl ac yn haeddu mynd ar y blaen o’r smotyn yn dilyn trosedd Ryan Shotton ar Sean Morrison yn y cwrt cosbi.
Felly yr arhosodd hi tan funud o ddiwedd y naw deg pan unionodd Jutkiewicz. Er i Alan McGregor arbed peniad gwreiddiol blaenwr Birmingham fe adlamodd y bêl yn ôl oddi arno i gefn y rhwyd.
Mae’r canlyniad yn gadael Caerdydd yn drydydd ar ddeg yn nhabl y Bencampwriaeth gyda naw gêm yn weddill.
.
Caerdydd
Tîm: McGregor, Richards, Morrison, Bamba, Bennett, Halford (Wittingham 58’), Pilkington, Gunnarsson, Ralls, Hoilett, Zohore
Gôl: Ralls [c.o.s.] 53’
Cerdyn Melyn: Ralls 88’
.
Birmingham
Tîm: Kuszczak, Bielik, Shotton, Robinson (Adams 64’), Nsue, Davis (Frei Koyunlu 75’), Tesche, Kieftenbeld, Grounds, Gardner, Jutkiewicz
Gôl: Juthiewicz 89’
Cardiau Melyn: Bielik 45’, Davis 46’, Shotton 52’, Gardner 90+5’
.
Torf: 20,334