Levent Gundogan Llun: Academi Cei Connah
Mae chwaraewr academi o dan 14 un o glybiau Uwchgynghrair Cymru wedi arwyddo i un o gewri’r gêm, Manchester United.

“Ymunodd Levent Gundogan â’r academi dros ddwy flynedd y nôl ac mae wedi chwarae’n rheolaidd i’r  clwb ers ymuno,” meddai  llefarydd ar ran Cei Connah.

“Mae’n hynod  o dalentog ac yn chwarae fel ymosodwr neu’n canol cae. Mae ei ymrwymiad ai agwedd at ymarfer wedi bod yn wych.

“Mae hefyd yn esiampl o’r llwybr sydd i chwaraewyr o fewn system Academi  Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Cafodd ei ddewis i garfan datblygu Gogledd Cymru’r tymor hwn sy’n arwain i dîm o dan 16 Cymru.

“Ar ôl cael ei ddewis i dîm y Nomadiaid cafodd gêm dda ai ddewis i garfan Gogledd Cymru oddi cartref yn erbyn Man U ddechrau’r flwyddyn.  Mi sgoriodd pedwar gôl yn y gêm a orffennodd 4-4 yn Carrington – wnaeth hyn arwain at chwe wythnos o dreial ac roedd yn llwyddiannus i gael cytundeb llawn amser.

“Mae pawb yng Nghei Connah’n dymuno pob lwc iddo.”

Levent yw’r 29ain chwaraewr o academi’r Nomadiaid i arwyddo i glwb proffesiynol yn y saith mlynedd diwethaf.