Met Caerdydd sydd wedi ennill Cwpan Merched Cymru Llun: Met Caerdydd
Fe gurodd Merched Met Caerdydd  Y Fenni  4-2 i godi Cwpan y Gynghrair ar Stadiwm Leckwith ddydd Sul  yng Nghaerdydd.

Sgoriodd Jassie Vasconcelos ddwy gôl unigol yn erbyn ei chyn-glwb er gwaethaf chwarae rhan fwyaf o’r ail hanner gyda deg chwaraewr.

Ar ôl ennill 2-0 hanner amser roedden nhw un chwaraewr  i lawr ar ôl i Stephanie Turner gael ail gerdyn melyn gyda hanner awr o’r gêm yn weddill.

Roedd rheolwraig Met, Kerry Harris, yn falch iawn o’r fuddugoliaeth: “Roedd y merched o dan bwysau yn yr ail hanner yn enwedig ar ôl i Stephanie gael  ei hanfon o’r cae,” meddai wrth Golwg360.

“Rydan ni’n gweithio a chynllunio ar gyfer y senarios hyn, a sut i ddelio â nhw, mi weithiodd y tîm yn galed iawn, mi ddylsa nhw fod yn falch iawn.

“Mae’n grêt i gael ein dwylo ar y gwpan a’n sicr mae’n rhoi ni mewn hwyliau da am rownd gynderfynol Cwpan Cymdeithas Bêl droed Cymru ar Fawrth 12.

“Mi ddangosodd y tîm ddigon o angerdd gyda pherfformiad rhagorol yn erbyn tîm cryf o’r Fenni.”

Roedd Met wedi ennill y ddwy gêm yn gynharach yn y tymor rhwng y ddau dîm yng nghynghrair Orchard.