Mae capten tîm pêl-droed Abertawe, Leon Britton, wedi canmol dulliau hyfforddi’r prif hyfforddwr Paul Clement.
Cafodd y Sais ei benodi’n olynydd i’r Americanwr Bob Bradley ddechrau’r flwyddyn, ac roedd gwella ffitrwydd y chwaraewyr yn un o’i flaenoriaethau wrth geisio gwella sefyllfa’r tîm, oedd ar waelod yr Uwch Gynghrair pan dderbyniodd y swydd.
Ers hynny, mae’r Elyrch wedi codi allan o’r tri safle isaf yn dilyn buddugoliaethau dros Lerpwl, Southampton a Chaerlŷr – gan adeiladu ar y fuddugoliaeth dros Crystal Palace dan ofal y cyn-hyfforddwr Alan Curtis ar ddiwrnod cyntaf Paul Clement wrth y llyw.
Arweiniodd perfformiadau’r tîm fis diwethaf at enwi Paul Clement yn Rheolwr y Mis yn yr Uwch Gynghrair.
Dwyster
Dwyster y sesiynau ar y cae ymarfer sydd yn gyfrifol am berfformiadau diweddar y tîm, yn ôl Leon Britton.
“Un o’r pethau mawr gyda Paul yw ei fod e’n dda iawn ar y cae ymarfer. Mae e’n hyfforddwr gwych.
“Dydych chi ddim yn gweithio yn Real Madrid, Bayern Munich, Paris Saint-Germain a Chelsea os nad ydych chi’n hyfforddwr da.
“Mae amrywiaeth bob dydd wrth ymarfer, ac mae’n ddwys iawn. Mae cymaint mwy o fwynhad i’w gael wrth ymarfer. Mae’r lefelau ffitrwydd wedi gwella hefyd. Mae Paul wedi ein gwneud ni’n fwy trefnus â strwythur da.
“Mae pethau wedi cael eu gwneud yn symlach i bob chwaraewr. Boed yn gefnwr de, asgellwr neu’n ymosodwr, ry’n ni i gyd yn gwybod beth yw ein gwaith ni.
“Pan fo gan y gwrthwynebwyr y bêl, ry’n ni’n gwybod pa symudiadau i’w gwneud a’r safleoedd lle mae angen i ni fod.
“Y gwaith sy’n cael ei wneud ar y cae ymarfer sy’n gyfrifol am hyn i gyd.”
Fe fydd Abertawe’n teithio i un o gyn-glybiau Paul Clement, Chelsea, ddydd Sadwrn.