Mae disgwyl i dîm criced Iwerddon chwarae mewn gêm brawf am y tro cyntaf erioed yn 2018, yn ôl prif weithredwr Bwrdd Criced Iwerddon, Warren Deutrom.

Y gred yn wreiddiol oedd y byddai’n digwydd eleni.

Fe allai Iwerddon ennill statws gemau prawf pan fydd y Cyngor Criced Rhyngwladol (ICC) yn cyfarfod ym mis Ebrill.

Er hynny, mae Bwrdd Criced Iwerddon yn credu bod eu gêm brawf gyntaf o leia’ ddeng mis i ffwrdd.

Dywedodd Warren Deutrom nad oes cynlluniau i chwarae mewn gêm brawf yn 2017, a’u bod nhw’n “canolbwyntio ar 2018”.