Caerdydd 0–1 Norwich        
                                                             

Sgoriodd Cameron Jerome yn erbyn ei gyn glwb wrth i Norwich guro Caerdydd yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.

Un gôl oedd ei hangen wrth i’r ymwelwyr gipio’r pwyntiau i gyd yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Pum munud o’r hanner cyntaf a oedd ar ôl pan beniodd Jerome y Caneris ar y blaen o gic rydd Wes Hoolahan.

Roedd Caerdydd yn well wedi’r egwyl ond fe wnaeth John Ruddy yn dda i gadw llechen lân i Norwich gydag arbediadau da i atal Peter Wittingham a Craig Noone.

Mae’r Adar Gleision yn disgyn un lle i’r unfed safle ar bymtheg yn nhabl y Bencampwriaeth.

.

Caerdydd

Tîm: McGregor, Connolly (John 86’), Morrison, Bamba, Richards, Harris, Wittingham (Healey 72’), Gunnarsson, Ralls, Hoilett (Noone 70’), Zohore

Cardiau Melyn: Connolly 74’, Healey 76’

.

Norwich

Tîm: Ruddy, Pinto, Martin, Klose, Dijks, Tettey, Howson, Murphy (Oliveira 80’), Hoolahan (Bennett 88’), Wildschut (Murphy 71’), Jerome

Gôl: Jerome 40’

Cardiau Melyn: Jerome 49’, Tettey 70’, Howson 77’

.

Torf: 15,901