Neil Taylor oedd yr olaf o'r Cymry yng ngharfan Abertawe (Llun: Nick Potts/PA)
Ddylai’r diffyg Cymry yng ngharfan bêl-droed Abertawe ddim siomi’r cefnogwyr, yn ôl y prif hyfforddwr Paul Clement.
Cafodd y capten Ashley Williams ei werthu i Everton ar ddechrau’r tymor, ac fe gollodd y clwb gyfle i arwyddo’r chwaraewr canol cae Joe Allen cyn iddo fynd i Stoke.
Cyn i’r ffenest drosglwyddo gau nos Fawrth, cafodd Neil Taylor ei werthu i Aston Villa, ac fe adawodd dau chwaraewr ifanc, Owain Jones a Ryan Hedges er mwyn datblygu eu gyrfaoedd yn adrannau is y Gynghrair Bêl-droed.
Ond mae digon o arwyr ar ôl yn y tîm i’r cefnogwyr floeddio eu henwau o’r terasau, yn ôl Paul Clement.
Dywedodd wrth Golwg360: “Mae hi bob amser yn dda os oes gyda chi chwaraewyr sydd wedi dod trwy’r Academi i mewn i’r tîm cyntaf.
“Ond dw i’n credu bod digon o chwaraewyr sydd wedi bod yma ers nifer o flynyddoedd fel bod y cefnogwyr yn teimlo agosatrwydd iddyn nhw.”
Colli’r Cymry
Dim ond pedwar chwaraewr a oedd yn y garfan ar ddechrau cyfnod Abertawe yn yr Uwch Gynghrair ar gyfer tymor 2011-12 sy’n dal i fod yn flaenllaw – y capten Leon Britton, Nathan Dyer, Wayne Routledge ac Angel Rangel.
Ychwanegodd Paul Clement: “Mae’r chwaraewyr oedd ynghlwm wrth y dyrchafiad o’r Bencampwriaeth i’r Uwch Gynghrair wedi bod yma ers nifer o flynyddoedd. Mae’n bwysig fod chwaraewyr wedi dangos ymrwymiad i’r clwb ac wedi aros yma a bod yn ffyddlon, gan barhau i frwydro dros y clwb.”
Ond yn ystod y chwe blynedd diwethaf, mae’r Elyrch wedi colli Ben Davies i Spurs a Joe Allen i Lerpwl.
Mae dau Gymro arall a fu yn y garfan y tymor hwnnw, Shaun MacDonald a David Cotterill hefyd wedi mynd ymlaen i fod yn rhan o garfan Cymru dros y blynyddoedd diwethaf.
Ond dydy’r angen i chwaraewyr adael yr Elyrch er mwyn datblygu eu gyrfaoedd ddim yn achos i boeni, yn ôl Paul Clement.
“Mae hynny’n wir am unrhyw un o’r clybiau yn yr Uwch Gynghrair, mae’n gofyn tipyn bod chwaraewyr ifainc yn dod drwodd [ar y lefel uchaf].
“Y freuddwyd yw cael chwaraewyr yn dod drwodd a mynd yr holl ffordd, ond y realiti yw fod hynny’n anodd iawn oherwydd bod y safonau mor uchel.
“Ond yn y lle cyntaf, ry’n ni’n edrych yn fewnol ac os nad yw’r safonau’n ddigon da, ry’n ni’n edrych ar y tu allan.”
Gêm fyd-eang
Wrth i Abertawe frwydro yn erbyn rhai o brif dimau Ewrop i aros yn yr Uwch Gynghrair, mae Paul Clement yn credu bod rhaid ceisio denu chwaraewyr o bob cwr o Ewrop a’r byd er mwyn cynnal safonau.
Gyda phob chwaraewr o dramor sy’n dod i’r clwb, mae un lle yn llai i Gymry ei lenwi.
Ychwanegodd Paul Clement: “Ry’n ni’n farchnad fyd-eang, mae tipyn o arian ynghlwm wrthi a gallwn ni ddenu chwaraewyr o bob cwr o’r byd. Mae hynny’n gwneud popeth gymaint yn fwy cystadleuol.”
‘Nid dyma’r amser i arbrofi’
Ac eithrio Neil Taylor, Daniel James yw’r unig Gymro arall sydd wedi ymddangos yng nghrys Abertawe’r tymor hwn, a hynny fel eilydd ar gyfer y daith i Stoke ym mis Hydref pan oedd yr Americanwr Bob Bradley wrth y llyw.
Ac wrth i Abertawe frwydro yng ngwaelodion y tabl, prin fu’r cyfleoedd i’r chwaraewyr ar y cyrion yn y tîm cyntaf wrth i un rheolwr ar ôl y llall geisio atal y llif a gwyrdroi sefyllfa’r Elyrch.
Yn ôl Paul Clement, dydy hi ddim yn ymarferol cyflwyno chwaraewyr ifainc i’r garfan o dan yr amgylchiadau hynny.
“Nid dyma’r amser i arbrofi,” meddai. “Dyna fy safbwynt i, a safbwynt y chwaraewyr hefyd.
“Y peth pwysig yw fod y chwaraewyr yn gweithio at y nod o aros yn y gynghrair hon a byddwn ni’n ail-asesu popeth yn yr haf.
“Mae chwaraewyr da yn y tîm dan 23 ac ry’n ni’n cadw llygad barcud arnyn nhw.
“Mae peth symud o gwmpas wedi bod, wrth i rai ohonyn nhw ymarfer gyda’r tîm cyntaf. Dw i eisiau agosatrwydd gyda’r tîm dan 23 a’r Academi oherwydd y ddelfryd yw fod y doniau’n cael eu datblygu hyd at y tîm cyntaf.
“Ond rhaid iddyn nhw fod yn ddigon da.”