Byddai Jordan Ayew yn cynnig “opsiwn gwahanol” i Abertawe, yn ôl prif hyfforddwr y clwb Paul Clement.

Mae lle i gredu y bydd ymosodwr Aston Villa yn symud i Stadiwm Liberty fel rhan o drosglwyddiad a fydd yn gweld cefnwr chwith Cymru, Neil Taylor yn symud i Villa Park.

Ar hyn o bryd, yr awgrym yw y bydd rhaid i Abertawe dalu hyd at £5 miliwn am Jordan Ayew – y gwahaniaeth rhwng gwerth Neil Taylor (£3 miliwn) a’r ymosodwr (£8 miliwn).

Dim manylion pendant

Ond fe fydd rhaid aros tan ddydd Mawrth i glywed union fanylion y trosglwyddiad ar y diwrnod pan fydd y ffenest drosglwyddo’n cau.

Fe allai Wrecsam, fel cyn-glwb Neil Taylor, hefyd elwa o’r trosglwyddiad pe bai Abertawe ac Aston Villa yn cyfnewid arian.

Mae Jordan Ayew yn cynrychioli Ghana yng Nghwpan Gwledydd Affrica ar hyn o bryd, ac mae’r Elyrch yn dibynnu ar brawf ffitrwydd a gafodd cyn teithio i’r gystadleuaeth yn hytrach na’i orfodi i ddychwelyd am brawf newydd.

Ayew yr ail

Jordan Ayew yw’r ail aelod o’i deulu fydd wedi cynrychioli Abertawe, ar ôl i’w frawd dreulio tymor yn Stadiwm Liberty cyn symud i West Ham am £20.5 miliwn dros yr haf.

Dywedodd Paul Clement wrth y wasg brynhawn dydd Llun: “Ry’n ni’n cael chwaraewr da. Dw i’n cofio pan chwaraeodd e gyda’i frawd [Andre, dros Ghana].

“Ers hynny, mae e wedi bod gydag Aston Villa ac yn gwneud yn arbennig o dda yng Nghwpan Gwledydd Affrica, ac mae’n edrych fel y gallen nhw fynd yr holl ffordd.

“Ry’n ni’n dod â rhywun hyblyg i mewn ac mae e’n fath gwahanol o ymosodwr i’r hyn sydd gyda ni.”

Mae’n debygol y bydd Jordan Ayew yn ffurfio partneriaeth â’r Sbaenwr Fernando Llorente, ac yntau’n ymddangos fel pe bai e wedi penderfynu aros yn Stadiwm Liberty er gwaetha’r diddordeb ynddo o du Chelsea.

Ychwanegodd Paul Clement: “Mae Fernando yn chwarae â’i gefn at y gôl. Bydd Ayew yn fwy deinamig ac yn ymosodol, gan dorri trwy’r amddiffyn.

“Bydd hi’n wych cael opsiwn gwahanol.”

‘Gwybodaeth gefndirol gan ei frawd’

Yn ôl Paul Clement, mae’n bosib fod clywed gan ei frawd am y clwb a’r ddinas wedi dylanwadu ar benderfyniad Jordan Ayew i drafod y posibilrwydd o ddod i Abertawe.

“Mae e’n gwybod tipyn am y clwb, dw i’n sicr mai dyna pam ei fod e’n hapus i ddod yma.

“Fe fydd e wedi cael tipyn o wybodaeth gefndirol gan ei frawd am y lle, y clwb a’r bobol yma.”

Ond dim amddiffynnwr canol?

Er gwaetha’r holl sôn ers yr haf fod angen amddiffynnwr canol newydd ar yr Elyrch yn lle’r cyn-gapten Ashley Williams, mae Paul Clement yn cyfaddef ei bod yn annhebygol y bydd unrhyw chwaraewyr ychwanegol ac eithrio Jordan Ayew yn arwyddo cytundeb cyn i’r ffenest drosglwyddo gau.

Mae Alfie Mawson a Federico Fernandez yn dechrau sefydlu eu hunain yn bartneriaeth yng nghanol yr amddiffyn, ac mae Mike van der Hoorn a Jordi Amat yn opsiynau wrth gefn.

Wrth drafod rhinweddau Alfie Mawson, a symudodd o Barnsley, dywedodd Paul Clement: “O’r lefel roedd e’n chwarae y llynedd hyd at nawr, mae e wedi gwneud tipyn o gynnydd. Mae angen iddo fe ddatblygu ei gêm, ond mae e mewn sefyllfa dda ar hyn o bryd.”

Yn ôl Paul Clement, mae e’n fodlon ar yr hyn y mae e wedi’i weld gan y pedwar ohonyn nhw hyd yn hyn, ac mae hynny wedi ei argyhoeddi i roi cyfle iddyn nhw brofi eu gwerth.

Dywedodd: “Wrth i amser fynd heibio, wrth i fi weithio mwy gyda’r amddiffynwyr canol, ro’n i’n meddwl y gallwn i weithio gyda’r chwaraewyr sy gyda fi a’u gwella nhw.

“Maen nhw’n ysu i wella. Dw i’n hapus dros ben gyda’r pedwar sy gyda fi.”

Cystadleuaeth

Ar hyn o bryd, mae Mike van der Hoorn a Jordi Amat yn cael eu hystyried yn opsiynau wrth gefn, ond dydy hynny ddim yn golygu bod y drws wedi’i gau’n glep arnyn nhw, yn ôl Paul Clement.

“Y ddau yna [Alfie Mawson a Federico Fernandez] sy’n chwarae ar hyn o bryd ond maen nhw’n cael eu gwthio’n galed gan Mike van der Hoorn a Jordi Amat.

“Dydyn nhw ddim jyst wedi gweld y peth fel y ddau yna’n chwarae tan ddiwedd y tymor.

“Dw i’n gweld dau foi sy’n gweithio’n galed ac yn eu gwthio nhw, a dyna’r gystadleuaeth dw i’n ei hoffi.”