Neil Taylor (llun: Nick Potts/PA)
Mae cefnwr chwith Abertawe a Chymru, Neil Taylor ar ei ffordd i Aston Villa gyda diwrnod yn weddill o’r ffenest drosglwyddo bresennol.
Dydy’r trosglwyddiad ddim wedi’i gwblhau eto, ond mae lle i gredu y gallai’r manylion gael eu cadarnhau cyn diwedd y dydd heddiw.
Mae’r trosglwyddiad yn gweld yr asgellwr Jordan Ayew yn dod i Stadiwm Liberty, ac fe allai Aston Villa dderbyn £5 miliwn fel rhan o’r trosglwyddiad.
Mae e’n cynrychioli Ghana yng Nghwpan Gwledydd Affrica ar hyn o bryd ac felly mae’r Elyrch yn dibynnu ar brawf meddygol a gafodd ei gwblhau cyn iddo deithio.
Neil Taylor yn drydydd dewis
Prin fu cyfleoedd Neil Taylor y tymor hwn gyda Stephen Kingsley yn dechrau nifer o gemau o dan Francesco Guidolin a Bob Bradley.
Ac erbyn hyn mae Martin Olsson wedi cyrraedd o Norwich, sy’n golygu i bob pwrpas mai trydydd dewis fyddai Neil Taylor am weddill y tymor.
Dywedodd Paul Clement: “Dim ond dau gefnwr chwith sydd eu hangen. Ond mae Neil wedi bod yn was ffyddlon i’r clwb ers saith mlynedd.
“Mae angen her newydd arno fe ac ry’n ni’n dymuno’n dda iddo fe.
“Fe ddywedodd e fod y cyfle wedi dod ac roedd e am fanteisio arno fe, ac ro’n i’n cefnogi hynny.”
Dyfodol Neil Taylor gyda Chymru
Un o brif ystyriaethau Neil Taylor, wrth gwrs, fyddai effaith symud i’r Bencampwriaeth ar ei yrfa ryngwladol, ac yntau’n rhan allweddol o garfan Cymru yn Ewro 2016 haf diwethaf.
Dywedodd Paul Clement: “Fe wnaeth e’n dda i Gymru yn yr haf ac mae e am barhau â hynny.”
Bydd y trosglwyddiad hefyd yn golygu y bydd Neil Taylor yn ymuno â Chymro arall yn Aston Villa, sef capten y clwb, James Chester.