Casnewydd 3–1 Hartlepool     
                                                       

Caeodd Casnewydd y bwlch ar y gweddill ar waelod yr Ail Adran gyda buddugoliaeth dda dros Hartlepool ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd Ryan Baird yr Alltudion ar y blaen yn yr hanner cyntaf cyn i Aaron Williams a Dan Butler ychwanegu dwy gôl arall wedi’r egwyl wrth iddynt ennill yn gyfforddus yn y diwedd.

Peniodd Bird y tîm cartref ar y blaen wedi dim ond chwarter awr o chwarae ac felly yr arhosodd hi tan hanner amser.

Dyblodd Williams fantais Casnewydd yn gynnar yn yr ail gyfnod gyda pheniad o groesiad Bird y tro hwn.

Roedd y tri phwynt yn ddiogel wedi ergyd dda Butler o du allan i’r cwrt cosbi ugain munud o’r diwedd a gôl gysur yn unig a oedd ymdrech hwyr Padraig Amond i’r ymwelwyr.

Mae Casnewydd yna aros ar waelod tabl yr Ail Adran er gwaethaf y fuddugoliaeth ond dau bwynt yn unig sydd yn eu gwahanu hwy bellach a diogelwch yr ail safle ar hugain.

.

Casnewydd

Tîm: Day, Pipe, Jones (Demetriou 82’), O’Brien, Nelson, Butler, Bennett, Rose (Flynn 78’), Williams (Samuel 86’), Bird, Reid

Goliau: Bird 15’, Williams 56’, Butler 71’

.

Hartlepool

Tîm: Bartlett, Donnelly, Bates, Harrison, Kavanagh, Walker, Featherstone, Woods (Smith 55’), Hawkins (Laurent 85’), Oates (Amond 67’), Alessandra

Gôl: Amond 90+4’

.

Torf: 2,271