Reading 2–1 Caerdydd
Colli fu hanes Caerdydd wrth iddynt deithio i Stadiwm Madejski i wynebu Reading yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.
Cyfartal a oedd hi ar yr egwyl ond sgoriodd Yann Kermorgant y gôl holl bwysig i’r tîm cartref ar yr awr.
Ar wahân i ergyd Joe Ralls a darodd y postyn, digon diflas a oedd deugain munud agoriadol y gêm. Newidiodd hynny ym mhum munud olaf yr hanner cyntaf wrth i’r ddau dîm ganfod cefn y rhwyd.
Rhoddodd John Swift Reading ar y blaen dri munud cyn yr egwyl, Allan McGregor yn methu dal ergyd Danny Williams a sodliad deheuig Garath McCleary yn rhoi gôl ar blât i Swift.
Roedd Caerdydd yn gyfartal cyn troi, Ralls yn gwasgu cic o’r smotyn o dan Ali Al-Habsi wedi troed uchel Liam Moore ar Sean Morrison yn y cwrt cosbi.
Aeth y tîm cartref yn ôl ar y blaen wedi chwarter awr o’r ail hanner gyda chic rydd Yann Kermorgant.
Junior Hoilett a ddaeth agosaf at daro nôl i Gaerdydd yn yr hanner awr olaf ond arbedodd Al-Habsi ei gic rydd wrth i Reading ddal eu gafael ar y tri phwynt.
Mae’r canlyniaad yn gadael Caerdydd yn yr unfed safle ar bymtheg yn nhabl y Bencampwriaeth.
.
Reading
Tîm: Al Habsi, McShane, Moore, van den Berg (Blackett 41’), McCleary, Williams, Kelly, Swift (Evans 55’), Gunter, Kermorgant, Beerens (Obita 77’)
Goliau: Swift 42’, Kermorgant 60’
Cerdyn Melyn: Moore 45’
.
Caerdydd
Tîm: McGregor, Halford (Kennedy 77’), Morrison, Bamba, Peltier, Ralls (Wittingham 89’), Gunnarsson, Richards, Hoilett, Healey, Zohore (Harris 66’)
Gôl: Ralls [c.o.s.] 45+1’
Cerdyn Melyn: Bamba 8’
.
Torf: 18,558