Sale 41–3 Gleision

Tipyn o gweir a gafodd y Gleision wrth iddynt deithio i Stadiwm AJ Bell i wynebu Sale yn y Cwpan Eingl-Gymreig nos Wener.

Sgoriodd y tîm cartref dri chais yn yr hanner cyntaf cyn ychwanegu pedwar arall wedi’r egwyl mewn buddugoliaeth swmpus.

Croesodd Denny Solomana, Jon Mills a Laurence Pearce wrth i Sale sefydlu un pwynt ar bymtheg o fantais erbyn hanner amser.

Sgoriodd Pearce ei ail ef a phedwerydd ei dîm i sicrhau’r pwynt bonws yn gynnar yn yr ail gyfnod cyn i’r Saeson ychwanegu tri chais arall yn yr hanner awr olaf i droi buddugoliaeth yn grasfa.

.

Sale

Ceisiau: Denny Solomona 9’, Jon Mills 22’, Laurence Pearce 36’, 49’, Neil Briggs 55’, James Flynn 68’, Cais Cosb 79’

Trosiadau: Alan MacGinty 9’, 22’, Bryon McGuigan 79′

.

Gleision

Cic Gosb: Jarrod Evans 28’