Luciano Narsingh
Ni fydd chwaraewr newydd Abertawe Luciano Narsingh yn chwarae yn erbyn Arsenal yfory oherwydd anaf i’w goes.

Fe gafodd yr asgellwr ei brynu am £4 miliwn o PSV Eindhoven.

Bydd Neil Taylor hefyd yn colli allan ar ôl anafu asgwrn boch yn ystod sesiwn ymarfer ganol yr wythnos.

Mae allan am dair wythnos a’r Albanwr Stephen Kingsley yw’r unig amddiffynnwr chwith sy’n holliach ar hyn o bryd.