Ched Evans (Llun: PA)
Fe allai dyfodol Ched Evans gyda Chlwb Pêl-droed Chesterfield fod yn y fantol ar ôl i’r rheolwr Danny Wilson gael ei ddiswyddo.

Mae gan y Cymro gytundeb blwyddyn gyda’r clwb, ac mae’n dod i ben yn yr haf.

Cafodd ei arwyddo gan Danny Wilson, ei reolwr yn Sheffield United, ychydig ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar ar ôl dwy flynedd a hanner dan glo am dreisio dynes mewn gwesty yn Y Rhyl.

Ond enillodd ei apêl yn erbyn y dyfarniad, a chael parhau â’i yrfa bêl-droed.

Mae Danny Wilson wedi bod yn rheolwr ar y clwb ers mis Rhagfyr 2015, ond mae’r tîm yng ngwaelodion yr Adran Gyntaf ar ôl ennill un gêm allan o chwech yn ddiweddar.

Fe gollon nhw o 2-o yn erbyn Bradford brynhawn dydd Sadwrn.