Caerdydd 1–2 Fulham
Mae Caerdydd allan o Gwpan FA Lloegr ar ôl colli gartref yn erbyn Fulham yn y drydedd rownd amser cinio ddydd Sul.
Er i’r Adar Gleision fynd ar y blaen yn Stadiwm y Ddinas roedd yr ymwelwyr o Lundain yn well tîm ac ar y blaen cyn yr egwyl.
Aeth Caerdydd ar y blaen wedi dim ond wyth munud pan wyrodd cic rydd Anthony Pilkington oddi ar Lucas Piazon yn y mur amddiffynnol i gefn y rhwyd.
Fulham oedd y tîm gorau am weddill yr hanner serch hynny, yn rheoli pethau gyda gêm basio effeithiol.
Roedd yr ymwelwyr yn haeddiannol gyfartal wedi chwarter awr yn dilyn gôl Stefan Johansen. Gwnaeth Ryan Fredericks yn dda ar y dde cyn tynnu’r bêl yn ôl i’r gŵr o Norwy yn y cwrt cosbi a gorffennodd yntau i’r gornel uchaf.
Parhau i reoli a wnaeth Fulham ac roeddynt ar y blaen wedi ychydig dros hanner awr diolch i gôl debyg iawn i’r gyntaf. Cafwyd rhagor o waith da gan Fredericks ar y dde ac er i gynnig Tom Cairney daro’r trawst fe adlamodd y bêl yn garedig i Ryan Sessegnon am gôl syml i’r bachgen un ar bymtheg oed.
Roedd hi’n gêm fwy cyfartal yn yr ail hanner ond prin oedd cyfleoedd clir yn y naill ben neu’r llall wrth i Fulham ddal eu gafael yn gymharol gyfforddus i sicrhau eu lle yn y bedwaredd rownd.
.
Caerdydd
Tîm: Murphy, Morrison, Halford (M. Harris 69’), Bamba, Richards, Ralls, Huws, Bennett, Pilkington, K. Harris (Noone 79’), Lambert (O’Keefe 69’)
Gôl: Pilkington 8’
.
Fulham
Tîm: Bettinelli, Odoi, Sigurdsson (Malone 90+2′), Ream, Sessegnon, Johansen (Adeniran 81’), McDonald, Fredericks, Cairney, Piaxori, Aluko (Humphrys 85’)
Goliau: Johansen 14’, Sessegnon 33’
.
Torf: 5,199