Mae rheolwr tîm pêl-droed Northampton a chyn-amddiffynnwr Cymru, Rob Page, wedi ymddiheuro am ddisgrifio gêm ei dîm yn erbyn Bristol Rovers fel “dynion yn erbyn merched”.
Collodd Northampton o 5-0 yn yr Adran Gyntaf brynhawn ddoe ac maen nhw bellach wedi colli wyth allan o’u 10 gêm diwethaf.
Roedd y tîm wedi’u cloi yn yr ystafell newid am hyd at 45 munud ar ôl y gêm.
Ond ar ôl siarad â’r wasg, cyfaddefodd Rob Page fod ei eiriau’n “gwbl annerbyniol”.
Datganiad
Mewn datganiad ar wefan y clwb, ychwanegodd y rheolwr: “Roedd prynhawn Sadwrn yn anodd iawn i bawb.
“Ar ôl y gêm, fe wnes i sylw, wrth siarad â’r cyfryngau lleol, am y gêm yn “ddynion yn erbyn merched”.
“Wnes i sylweddoli ar unwaith fod y sylw hwn yn gwbl annerbyniol. Do’n i ddim wedi bwriadu sarhau unrhyw un a dw i’n ymddiheuro’n llawn os gwnes i achosi sarhad.”
Dywedodd fod ei sylw wedi cael ei wneud “ym merw’r eiliad” ond nad oedd hynny’n esgus.