Stevenage 3–1 Casnewydd     
                                                       

Sgoriodd Matt Godden hatric wrth i Stevenage guro Casnewydd ar Broadhall Way brynhawn Sadwrn.

Mae’r Alltudion, sydd ar waelod yr Ail Adran, bellach wedi colli wyth gêm gynghrair yn olynol.

Rhoddodd Godden y tîm cartref ar y blaen yn gynnar o groesiad Steve Schumacher cyn dyblu mantais ei dîm dri munud cyn yr egwyl.

Cwblhaodd Godden ei hatric o’r smotyn ar yr awr yn dilyn trosedd Ben Kennedy ar Sid Nelson.

Gôl gysur yn unig a oedd ymdrech hwyr Dan Butler i Gasnewydd ac mae’r canlyniad yn eu cadw bedwar pwynt i ffwrdd o’r gweddill ar waelod tabl yr ail Adran.

.

Stevenage

Tîm: Jones, Henry, Franks, King, Ntlhe, Pett, Schumacher (Lee 68’), Gorman, Walker (Loft 74’), Kennedy, Godden (Cowans 84’)

Goliau: Godden 9’, 42’ [c.o.s.] 62’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Barnum-Bobb (Reid 71’), O’Brien, Bennett, Nelson, Pipe, Gordon (Jackson 55’), Randall, Tozer, Myrie-Williams (Butler 3’), Williams

Gôl: Butler 89’

Cardiau Melyn: Bennett 33’, Nelson 61’

.

Torf: 2,185