Hull 2–0 Abertawe         
                                                                    

Mae Abertawe allan o’r Cwpan FA ar ôl colli o ddwy gôl i ddim oddi cartref yn Hull yn y drydedd rownd brynhawn Sadwrn.

Roedd dwy gôl hwyr i’r eilyddion, Abel Hernandez a Josh Tymon, yn ddigon i’r tîm cartref yn Stadiwm KCOM.

Wedi hanner cyntaf di sgôr bu rhaid aros tan ddeuddeg munud o ddiwedd y naw deg am y gôl agoriadol. Hernandez a gafodd honno yn dilyn gwaith creu da Robert Snodgrass a Shaun Maloney ar y dde.

Maloney a greodd yr ail hefyd yn yr amser brifo ar ddiwedd y gêm, yr Albanwr yn gosod y tro hwn i’r gŵr ifanc dwy ar bymtheg, Tymon.

Bydd yn rhaid i’r Elyrch ganolbwyntio yn awr ar y gynghrair, ble maent ddau bwynt yn glir o Hull sydd ar y gwaelod.

.

Hull

Tîm: Jakupovic, Meyler, Livermore, Dawson (Maloney 70’), Robertson, Henriksen (Hernandez 63’), Huddlestone, Mason, Clucas, Snodgrass, Diomande (Tymon 89’)

Goliau: Hernandez 78’, Tymon 90+3’

Cardiau Melyn: Clucas 45’, Huddlestone 7’

.

Abertawe

Tîm: Nordfeldt, Naughton, van der Hoorn, Fernandez, Kingsley (Rangel 67’), Fer, Cork, Ki Sung-yueng, Dyer (Routledge 63’), Baston (Llorente 62’), Sigurdsson

Cerdyn Melyn: Naughton 88’

.

Torf: 6,608