Alan Curtis (Llun: Clwb Pêl-droed Abertawe)
Ar ôl cael ei wfftio gan brif hyfforddwr newydd tîm pêl-droed newydd Abertawe, Paul Clement, mae Alan Curtis wedi derbyn swydd newydd gyda’r clwb.
Bydd e’n rheoli chwaraewyr sydd ar fenthyg o Abertawe gyda chlybiau eraill, gan fod yn gyfrifol am swydd a gafodd ei chreu gan yr Uwch Gynghrair ddechrau’r tymor hwn.
Fe fu Alan Curtis gyda’r clwb ers dros 40 mlynedd, gan ymgymryd ag amrywiaeth o swyddi, ac fe fu’n rheolwr dros dro dair gwaith.
Bydd ei swydd newydd yn gofyn am fonitro chwaraewyr sydd ar fenthyg o dîm cyntaf Abertawe a’r tîm dan 23, ac fe fydd elfen o sgowtio hefyd, wrth iddo gydweithio â chyn-reolwr arall, Brian Flynn, pennaeth yr academi Dave Adams a phennaeth recriwtio’r clwb, David Leadbetter.
Dywedodd y cadeirydd Huw Jenkins fod y clwb o’r farn ei bod hi’n “hanfodol” penodi’r person cywir i’r swydd.
“Tra bod Alan wedi camu i ffwrdd o hyfforddi’r tîm cyntaf, roedden ni’n teimlo ei bod hi’n hollbwysig i ni ei gadw’n rhan o’n strwythur pêl-droed a chael ei bresenoldeb e o gwmpas y clwb a’r cae ymarfer.
“Nid yn unig mae ganddo fe lu o wybodaeth a phrofiad, mae e’n cael ei barchu drwyddi draw yn y gêm, nid dim ond yn Abertawe.”
‘Wrth fy modd’
Er gwaetha’r adroddiadau am y ffordd y gwnaeth Alan Curtis ddarganfod ei fod yn colli ei swydd ar y tîm hyfforddi – fe gafodd neges destun gan Huw Jenkins, yn ôl rhai – fe ddywedodd ei fod yn edrych ymlaen at y gwaith newydd.
“Dw i wrth fy modd o gael derbyn y swydd newydd. Fe fu bwlch yn y clwb yn y maes yma ers peth amser a dw i wir yn edrych ymlaen at ei lenwi hyd eitha fy ngallu.”
Ychwanegodd ei fod e wedi cael “trafodaethau cyfeillgar” gyda’r clwb cyn derbyn y swydd.
Ar hyn o bryd, mae 12 o chwaraewyr Abertawe allan ar fenthyg – Bafe Gomis (Marseille), Franck Tabanou (Granada), Kyle Bartley (Leeds), Matt Grimes (Leeds), Marvin Emnes (Blackburn), Ryan Hedges (Yeovil), Liam Shepherd (Yeovil), Josh Vickers (Barnet) a Josh Sheehan (Casnewydd).