Scarlets 16–13 Ulster

Cafodd y Scarlets fuddugoliaeth mewn gêm agos nos Wener wrth i Ulster ymweld â Pharc y Scarlets yn y Guinness Pro12.

Cais cosb yn yr ail hanner a oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm ar noson wlyb yn Llanelli.

Bu bron i Dan Jones agor y sgorio gyda chais cynnar ond er i’w ymdrech gael ei gwrthod gan y dyfarnwr fideo fe wnaeth y maswr cartref roi ei dîm chwe phwynt ar y blaen gyda dwy gic gosb yn y chwarter awr cyntaf.

Atebodd Ulster gyda thri phwynt o droed Paddy Jackson cyn croesi am y cais agoriadol hanner ffordd trwy’r hanner. Croesodd Stuart McCloskey y llinell fantais yn rhy hawdd o lawer cyn dadlwytho i roi cais ar blât i Jacob Stockdale.

Llwyddodd Jackson gyda’r trosiad cyn ychwanegu tri phwynt arall gyda chic olaf yr hanner, 6-13 y sgôr wrth droi.

Caeodd Jones y bwlch gyda chic gosb ar ddechrau’r ail hanner ac roedd y fuddugoliaeth o fewn cyrraedd Bois y Sosban hanner ffordd trwy’r ail hanner.

Dyna pryd y daeth y cais holl bwysig. Penderfynodd y dyfanrwr, Marius Mitrea, a’i ddyfarnwr fideo, Carlo Damasco, fod tacl Sean Reidy i atal cais Aled Davies, yn uchel. Cafodd wythwr Ulster gerdyn melyn a’r Scarlets gais cosb.

Rhoddodd trosiad syml Jones dri phwynt o fantais i’r tîm cartref ac fe brofodd hynny’n ddigon er iddynt hwythau orfod chwarae gyda phedwar dyn ar ddeg am ddeg munud hefyd yn dilyn cerdyn melyn i Jack Ball.

Mae’r canlyniad yn codi’r Scarlets dros Glasgow i’r pedwerydd safle yn nhabl y Pro12, er y gall yr Albanwyr godi drostynt eto gyda buddugoliaeth yn erbyn y Gleision ddydd Sadwrn.

.

Scarlets

Cais: Cais Cosb 61’

Trosiad: Dan Jones 62’

Ciciau Cosb: Dan Jones 11’, 14’, 53’

Cerdyn Melyn: Jake Ball 63’

.

Ulster

Cais: Jacob Stockdale 21’

Trosiad: Paddy Jackson 22’

Ciciau Cosb: Paddy Jackson 16’, 40’

Cerdyn Melyn: Sean Reidy 61’