Sion Bradley
Mae Bangor wedi cytuno benthyg Sion Bradley i Borthmadog ac fe fydd yr ymosodwr ifanc ar gael ar gyfer yr ornest gartref yn erbyn Llanfair United ar y Traeth yfory.

Bu’r chwaraewr yn aelod o dîm dan 19 llwyddiannus y Dinasyddion a goronwyd yn bencampwyr cenedlaethol cynghrair ddatblygu Uwch Gynghrair Cymru yn 2015/16.

Fe sgoriodd  hat-trig  yn  Rownd  Derfynol  Cwpan Uwch Gynghrair Cymru ar gyfer timau datblygu chwaraewyr, a hynny yn erbyn Cambrian & Clydach ym mis Mai 2016.

Mae’r bachgen o Flaenau Ffestiniog wedi ei gynnwys yn gyson yng ngharfan tîm cyntaf Bangor y tymor hwn. Er hynny, ddwywaith yn unig y mae wedi camu i’r cae o’r fainc mewn gemau Uwch Gynghrair Cymru.

Fe sgoriodd un gôl i Fangor yng Nghwpan Word ac mae ganddo gytundeb sy’n para 12 mis gyda’r Dinasyddion.