Paul Clement
Mae prif hyfforddwr newydd Clwb Pêl-droed Abertawe yn mynnu nad yw Alan Curtis wedi cael ei orfodi allan o’r clwb.
Cafodd Paul Clement ei gyflwyno’n ffurfiol i’r wasg brynhawn ddoe yn dilyn y newyddion na fydd Alan Curtis yn cael lle blaenllaw yn y tîm hyfforddi.
Mae cefnogwyr wedi bod yn ymateb yn chwyrn i’r newyddion am un o’r hoelion wyth sydd wedi chwarae rhan bwysig yn hanes y clwb ers iddo gael ei arwyddo fel chwaraewr am y tro cyntaf yn 1972.
Fe dreuliodd saith mlynedd gyda’r clwb yn chwaraewr rhwng 1972 a 1979, gan sgorio 71 gôl yn ei gyfnod cyntaf gyda’r clwb.
Dychwelodd i Abertawe rhwng 1980 a 1983, gan sgorio 21 gôl mewn 90 o gemau yn ei ail gyfnod fel chwaraewr ac yn ei dymor olaf gyda’r clwb fel chwaraewr, fe sgoriodd dair gôl mewn 26 o gemau.
Ers ymddeol yn chwaraewr, mae Alan Curtis wedi bod yn hyfforddwr y tîm cyntaf, yn is-hyfforddwr ac yn is-reolwr, yn ogystal â bod yn rheolwr-dros-dro dair gwaith.
Ac yntau’n 62 oed erbyn hyn, roedd rhai yn awgrymu y gallai Alan Curtis fod wedi penderfynu symud yn nes at ymddeol drwy dynnu’n ôl o’r tîm cyntaf.
Ond fe awgrymodd Paul Clement yn ystod y gynhadledd i’r wasg ddoe mai penderfyniad Alan Curtis oedd lleihau ei rôl gyda’r tîm cyntaf.
Dywedodd Paul Clement: “Ry’n ni eisiau iddo fe aros gyda’r clwb ac ar ôl trafodaethau â Huw Jenkins [y cadeirydd] heddiw, cyn belled ag yr y’n ni yn y cwestiwn, mae ganddo fe swydd yma tra bydd e ei heisiau hi – am oes, os oes angen!
“Mae e’n sicr yn cael ei barchu gan y chwaraewyr a’r cefnogwyr, ond mater iddo fe yw trafod gyda’r cadeirydd. Ond fe fydd e’n camu o’r neilltu o ran cyfrifoldebau hyfforddi ar y cae.
“Gobeithio y bydd e’n aros mewn swydd arall, ond mae’r swydd honno eto i’w thrafod.”
Mae’n ymddangos nad yw sentiment yn uchel ar restr blaenoriaethau Paul Clement, gyda’r prif hyfforddwr newydd yn datgan fod y “pethau hyn yn digwydd drwy’r amser gyda chlybiau eraill”.
Barn y cefnogwyr
Gyda’r clwb eisoes yn colli cefnogaeth yn dilyn pryderon diweddar am y perchnogion Americanaidd, Steve Kaplan a Jason Levien, a’r ffaith mai Paul Clement yw trydydd rheolwr y clwb y tymor hwn yn dilyn Bob Bradley a Francesco Guidolin, fe allai barn y cefnogwyr fod yn bwysicach fyth wrth i’r Elyrch geisio aros yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn.
Ac mae Paul Clement yn argyhoeddedig, er gwaetha’r siom am Alan Curtis, y bydd y cefnogwyr yn derbyn y sefyllfa pe bai perfformiadau a chanlyniadau ar y cae yn gwella.
“Hoffwn i feddwl mai’r prif beth yw fod y cefnogwyr eisiau gweld y tîm yn ymroi’n llwyr drostyn nhw.
“Maen nhw am weld eu tîm yn chwarae pêl-droed da. Maen nhw eisiau gweld eu tîm yn ennill gemau.
“Dyna pam dw i yma. Maen nhw am weld eu tîm yn gwneud yn dda ac yn llwyddo a gallan nhw ddod yma a gwylio a mwynhau’r perfformiadau.
“Dw i’n credu mai dyna’r flaenoriaeth a dyna dw i’n canolbwyntio arno fe.”