Sutton Utd 1–0 Wrecsam
Mae rhediad oddi cartref gwael Wrecsam yn y Gynghrair Genedlaethol yn parahu wedi iddynt golli yn erbyn Sutton Utd ar Gander Green Lane brynhawn Sadwrn.
Gôl gynnar Martin Riley i’w rwyd ei hun oedd unig gôl y gêm wrth i’r Dreigiau siomi ar y ffordd unwaith eto.
Pedwar munud yn unig a oedd ar y cloc pan wyrodd Riley groesiad Kevin Amankwaah heibio i Shwan Jalal yn y gôl.
Bu bron i Curtis Tilt a Jordan White achub pwynt i’r Dreigiau yn yr ail hanner ond daliodd Sutton eu gafael tan y diwedd.
Mae’r canlyniad yn gadael Wrecsam yn bymthegfed yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol ac heb ennill oddi cartref ers diwrnod cyntaf mis Hydref.
.
Sutton Utd
Tîm: Worner, amankwaah, Jefford, Bailey, Gomis (Dundas 56’), Collins, Eastmond, Deacon, Biamou (Fitchett 90’), Downer, Tubbs (McAllister 77’)
Gôl: Riley [g.e.h.] 4’
Cerdyn Melyn: Downer 71’
.
Wrecsam
Tîm: Jalal, Riley, Tilt, Edwards, White, Barry (R. Evans 61’), Rooney, Carrington (Powell 67’), Rutherford, J. Evans, Smith (Pyke 61’)
.
Torf: 1,613