Crawley 3–1 Casnewydd
Mae Casnewydd yn aros ar waelod yr Ail Adran ar ôl colli oddi cartref yn erbyn Crawley yn Stadiwm Broadfield brynhawn Sadwrn.
Cyfartal oedd hi ar hanner amser ond Crawley aeth â hi diolch i ddwy gôl gynnar yn yr ail hanner mewn gêm danllyd.
Tri munud yn unig a oedd ar y cloc pan beniodd James Collins y tîm cartref ar y blaen o groesiad Jordan Roberts.
Un yr un oedd hi ar yr egwyl serch hynny wedi i Joss Labadie sgorio i’r ymwelwyr gydag ergyd isel o du allan i’r cwrt cosbi.
Dechreuodd yr ail hanner yn union fel y cyntaf, gyda Crawley yn mynd ar y blaen gyda pheniad. Josh Yorwerth a oedd y sgoriwr y tro hwn o groesiad Jimmy Smith.
Sgoriodd Smith ei hun bum munud yn ddiweddarach i roi dwy gôl o fantais i’w dîm ac felly yr arhosodd hi tan y diwedd wrth i Josh Sheehan fethu cic o’r smotyn i’r ymwewlyr.
Mae’r canlyniad yn gadael Casnewydd bedwar pwynt i ffwrdd o’r gweddill ar waelod yr Ail Adran. Ac efallai y bydd rhagor o newyddion drwg ar y ffordd hefyd achos go brin y bydd y gynghrair yn rhy hapus gyda’r naw cerdyn melyn a dderbyniodd chwaraewyr Graham Westley yn ystyod y gêm.
.
Crawley
Tîm: Morris, Young, Connelly, Yorwerth, Blackman, Smith, Payne, Boldwejin, Clifford, Roberts, Collins
Goliau: Collins 3’, Yorwerth 48’, Smith 52’
Cardiau Melyn: Blackman 6’, Roberts 26’, Boldwejin 27’, Connolly 50’
.
Casnewydd
Tîm: Day, Barnum-Bobb, Jones, Bennett, Myrie-Williams, Tozer, Owen-Evans, Sheehan, Labadie, O’Hanlon, Jackson (Healey 45’)
Gôl: Labadie 33’
Cardiau Melyn: Labadie 12’, O’Hanlon 25’, Jones 27’, Bennett 28’, Jackson 37’, Myrie-Williams 48’, Healey 61’, Tozer 66’, Barnum-Bobb 82’
.
Torf: 2,022