Rheolwr Abertawe, Bob Bradley dan bwysau
Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Bob Bradley wedi dweud mai’r “un hen stori” oedd hi ym Middlesbrough y prynhawn yma wrth i’w dîm golli o 3-0.

Mae’r canlyniad yn cadw Abertawe yn nhri safle isa’r Uwch Gynghrair dros gyfnod y Nadolig.

Sgoriodd y Sbaenwr Alvaro Negredo ddwy gôl yn yr hanner cyntaf cyn i Marten de Roon ychwanegu’r drydedd ar ôl 58 munud i gwblhau prynhawn siomedig yr Elyrch ac ychwanegu mwy o bwysau eto fyth ar Bob Bradley.

Daeth gôl gyntaf Alvaro Negredo ar ôl 18 munud cyn i Jordi Amat faglu Adam Forshaw i roi ail gôl i’r Sbaenwr o’r smotyn ar ôl 29 munud.

Ar ôl i’r Elyrch gwympo i bedwerydd ar bymtheg yn y tabl, dywedodd Bob Bradley wrth y BBC: “Yr un hen stori yw hi. Ry’n ni wedi dechrau nifer o gemau’n bositif cyn ildio gôl.

“Aethon ni ar ei hôl hi o 1-0 ac yna aeth y gôl i mewn mewn ffordd ryfedd, ac yna fe ildion ni’r gic o’r smotyn.

“Fe wnaethon ni roi ein hunain mewn twll. Fe gawson ni nifer o gemau ar yr heol, ond nawr mae gyda ni ddwy gêm gartref [yn erbyn West Ham ar 26 Rhagfyr a Bournemouth ar 31 Rhagfyr].

“Ry’n ni’n siomedig ar hyn o bryd. Daethon ni yma gyda syniad da.

“Ry’n ni’n troi ein sylw nawr at y gemau cartref dros gyfnod y Nadolig.”