Caerdydd 3–4 Barnsley
Sgoriodd Barnsley yn hwyr yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm wrth guro Caerdydd yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.
Brwydrodd y tîm cartref nôl i fod yn gyfartal ar ôl bod ddwy gôl ar ei hôl hi ar hanner amser yn Stadiwm y Ddinas cyn i’r ymwelwyr gipio’r tri phwynt gyda’r gôl hwyr.
Peniodd Sean Morrison Gaerdydd ar y blaen o gic gornel Peter Wittingham wedi tri munud ond roedd Barnsley’n gyfartal wedi deunaw munud diolch i beniad Sam Winnall o groesiad Conor Hourihane.
Sgoriodd Winnall ei ail ef ac ail ei dîm wedi gwrthymosodiad chwim cyn i Josh Scowen ymestyn mantais yr ymwelwyr cyn hanner amser.
Tynnodd Wittingham un yn ôl i Gaerdydd ddeuddeg munud o ddiwedd y naw deg gydag ergyd dda o ochr y cwrt cosbi.
Roedd y tîm cartref yn gyfartal ddeg munud yn ddiweddarach wedi i Anthony Pilkington wyro peniad Morrison i gefn y rhwyd ac roedd hi’n ymddangos fod Caerdydd wedi cipio pwynt.
Nid felly y bu serch hynny wrth i Barnsley ddwyn y tri phwynt gyda gôl Ryan Williams yn y pumed munud o amser brifo yn dilyn gwrthymosodiad effeithiol arall.
Mae’r canlyniad yn gadael Caerdydd yn ugainfed yn nhabl y Bencmpwriaeth.
.
Caerdydd
Tîm: Amos, Connolly, Morrison, Ecuele Manga, Peltier, Noone (Harris 63’), Wittingham, Gunnarsson, Hoilett (Lambert 75’), Pilkington, Zohore
Goliau: Morrison 3’, Wittingham 79’, Pilkington 89’
Cerdyn Melyn: Noone 45’
.
Barnsley
Tîm: Davies, Bree, Roberts, MacDonald, Yiadom, Scowen, Hourihane, Morsy, Kent (Watkins 77’), Winnall, Bradshaw (Williams 90’)
Goliau: Winnall 19’, 32’, Scowen 43’, Williams 90+5’
Cardiau Melyn: Yiadom 42’, Davies 53’, Winnall 59’, MacDonald 87’
.
Torf: 14,754