Caerdydd 2–1 Wolverhampton Wanderers    
                        

Cipiodd gôl hwyr Anthony Pilkington y tri phwynt i Gaerdydd wrth iddynt groesawu Wolves i Stadiwm y Ddinas yn y Bencampwriaeth nos Fawrth.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen gyda gôl gynnar ond unionodd Matt Connolly bethau hanner ffordd trwy’r ail hanner cyn i Pilkington sicrhau’r fuddugoliaeth bum munud o ddiwedd y naw deg.

Dau funud yn unig a oedd ar y cloc pan gafodd Ben Amos ei guro gan ergyd Matt Doherty o bellter ac arhosodd yr ymwelwyr ar y blaen tan yr egwyl.

Roedd Caerdydd yn gyfartal wedi peniad Connolly o gic gornel Peter Wittingham, ac yna ar y blaen wedi ergyd isel gywir Pilkington.

Daliodd yr Adar Gleision eu gafael wedi hynny i sicrhau buddugoliaeth gyntaf mewn pedair gêm. Mae’r canlyniad yn eu codi o dri isaf y Bencampwriaeth, i’r pedwerydd safle ar bymtheg yn y tabl.

.

Caerdydd

Tîm: Amos, Connolly, Morrison, Ecuele Manga, Peltier, Hoilett, Wittingham (Ralls 88’), Gunnarsson, Richardson (Noone 45’), Immers (Zohore 45’), Pilkington

Goliau: Connolly 68’, Pilkington 86’

Cardiau Melyn: Peltier 16’, Wittingham 78’

.

Wolverhampton Wonderers

Tîm: Burgoyne, Iorfa, Batth, Stearman, Doherty, Edwards, Saiss, Saville, Costa (Brito Teixeira 45’), Dicko (Bodvarsson 76’), Cavaleiro (Enobakhare 66’)

Gôl: Doherty 2’

Cerdyn Melyn: Saiss 58’

.

Torf: 14,853