Mae Gylfi Sigurdsson yn chwaraewr pwysig i dîm pêl-droed Abertawe, yn ôl y rheolwr Bob Bradley, sy’n paratoi ei dîm ar gyfer dwy gêm bwysig yr wythnos hon.
Mae’r Elyrch yn teithio i West Brom nos yfory cyn mynd ymlaen i ogledd-ddwyrain Lloegr at newydd ddyfodiaid Middlesbrough ddydd Sadwrn mewn gêm hollbwysig i’r ddau dîm sydd yng ngwaelodion yr Uwch Gynghrair o hyd.
Roedd y chwaraewr ymosodol o Wlad yr Iâ ymhlith sgorwyr Abertawe wrth iddyn nhw drechu Sunderland o 3-0 mewn gêm a allai weddnewid tymor yr Elyrch a’u codi o’r gwaelodion cyn cyfnod prysur dros y Nadolig.
“Rhyfeddol”
Yn ôl Bob Bradley, mae ei berfformiadau yn rhoi hwb i’r tîm ond dydy’r Americanwr ddim yn credu y bydd un o’i brif chwaraewyr yn gadael Stadiwm Liberty pan fydd y ffenest drosglwyddo’n ail-agor ym mis Ionawr.
“Mae Gylfi wedi bod yn rhyfeddol i ni. Dw i’n siŵr bod nifer o glybiau’n talw sylw iddo fe.
“O’n safbwynt ni, mae e’n bwysig wrth i ni symud ymlaen, ac ry’n ni’n hyderus y bydd e’n rhan o’r tîm yn ail hanner y tymor.
“Mae chwaraewr fel Gylfi yn hanfodol i’n gweledigaeth ni. Mae pethau rhyfedd yn gallu digwydd ond does dim diben mynd i ormod o drafodaeth ar hyn o bryd.
“R’yn ni’n hyderus y bydd e’n rhan o’n tîm ni wrth symud ymlaen.
“Mae ei berfformiadau un wythnos ar ôl y llall, wrth sgorio goliau, yn gwneud i ni deimlo’n dda o safbwynt yr hyn mae e’n gwneud i ni ar y cae.”
Tom Carroll i ddychwelyd?
Yn ystod cyfnod pan fo gan glybiau un llygad ar y ffenest drosglwyddo eisoes, mae’n anochel y bydd rhai enwau’n codi dros yr wythnosau nesa’.
Un o’r cyfryw enwau sy’n cael ei gysylltu ag Abertawe yw Tom Carroll, sy’n wyneb cyfarwydd yn Stadiwm Liberty.
Treuliodd y chwaraewr canol cae gyfnod ar fenthyg yn Abertawe yn 2014-15, gan sgorio un gôl mewn 18 o gemau i’r Elyrch.
Ac mae Bob Bradley yn barod i gyfaddef – er gwaetha’r tawelwch am chwaraewyr eraill sy’n cael eu targedu – y byddai’r chwaraewr 24 oed yn gweddu’n berffaith i’r tîm, a hynny o bosib mewn safle tebyg i un o’r hoelion wyth, Leon Britton.
Ychwanegodd Bob Bradley: “Mae Tom Carroll yn bêl-droediwr da ac mae e wedi cael ei drafod.
“Mae pob chwaraewr sy’n cael ei grybwyll yn cael ei gymharu â chwaraewyr eraill.
“Yr hyn mae e’n ei gynnig yw ei fod e’n siarp yn dechnegol ac yn pasio’n dda, ac mae’r rheiny’n rhinweddau y gall timau eu defnyddio.
“Ond rhaid i ni ei gymharu â chwaraewyr eraill sy’n cael eu crybwyll.”