Mae Clwb Pêl-droed Crewe Alexandra yn cynnal ymchwiliad i’r ffordd y gwnaethon nhw ymdrin â honiadau bod cyn-hyfforddwr wedi camdrin plant yn rhywiol.
Mae llu o gyn-chwaraewyr wedi gwneud honiadau am Barry Bennell, oedd wedi’i gyflogi gan y clwb.
Roedd yn hyfforddwr gyda Crewe, Man City, Stoke a nifer o dimau ieuenctid yng ngogledd Lloegr a’r canolbarth o’r 1970au tan y 1990au.
Andy Woodward oedd y cyntaf i siarad yn gyhoeddus am ei brofiadau, ac fe arweiniodd hynny at nifer o chwaraewyr eraill yn mynd at yr heddlu.
Cafodd Barry Bennell ei garcharu am bedair blynedd yn 1994 am dreisio bachgen ar daith yn Florida, a chafodd e ddedfryd o naw mlynedd dan glo yn 1998 am 23 o droseddau yn erbyn chwe bachgen.
Cafodd ei garcharu unwaith eto yn 2015 am gamdrin bachgen yn ystod cwrs pêl-droed yn 1980.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Clwb Pêl-droed Crewe Alexandra: “Gall Clwb Pêl-droed Crewe Alexandra gyhoeddi heddiw y bydd yn cynnal arolwg annibynnol o’r ffordd y gwnaeth y clwb ymdrin â honiadau hanesyddol o gamdrin plant.
“Mae’r clwb yn benderfynol bod arolwg trylwyr yn digwydd cyn gynted â phosib ac yn credu mai arolwg annibynnol, i’w gynnal drwy benodi cyfreithwyr allanol, yw’r ffordd gywir wrth fynd ymlaen o dan yr amgylchiadau.”
Yn ôl cyn-gyfarwyddwr y clwb, cawson nhw wybod am droseddau Barry Bennell yn erbyn un o gyn-chwaraewyr ieuenctid y clwb.
Doedd e ddim wedi colli ei swydd yn dilyn yr honiadau, ond roedd yna gyfarwyddyd na ddylai fod ar ei ben ei hun â bechgyn ifainc.
Yn ôl y Daily Telegraph, roedd clybiau pêl-droed wedi talu chwaraewyr ifainc i gadw’n dawel am y ffaith eu bod nhw’n cael eu camdrin.
Ymhlith y rhai sydd wedi gwneud honiadau mae’r cyn-chwaraewyr David White a Jason Dunford (Man City), a Steve Walters a Chris Unsworth (Crewe).
Mae cyn-chwaraewr Lloegr, Paul Stewart hefyd wedi gwneud honiadau yn erbyn hyfforddwr.
Yn ôl y Guardian, mae cyn-chwaraewr Newcastle wedi mynd at yr heddlu yn honni bod y cyn-hyfforddwr George Ormond, un a gafodd ei garcharu yn 2002, wedi ei gamdrin.