Cymru 27–13 De Affrica

Gorffennodd Cymru gyfres yr Hydref gyda buddugoliaeth dros Dde Affrica yn y stadiwm cenedlaethol yng Nghaerdydd brynhawn Sadwrn.

Hwn oedd y tîm De Affrica gwaethaf i ymweld â Chaerdydd ers tro byd ac fe wnaeth Cymru ddigon i’w trechu.

Ciciau cosb a oedd unig bwyntiau’r hanner cyntaf, dwy o droed Jamba Ulengo i Dde Affrica a phedair gan Leigh Halfpenny, 12-6 y sgôr wrth droi.

Treuliodd mewnwr De Affrica, Faf de Klerk, ddeg munud yn y gell gosb ar ddechrau’r ail hanner am daro’r bêl ymlaen yn fwriadol a manteisiodd Halfpenny’n syth gyda phumed cic gosb yn ymestyn y fantais i naw pwynt.

Daeth cais cyntaf y gêm yn fuan wedyn wrth i Ken Owens blymio drosodd fel daeargi wedi sgarmes symudol effeithiol. Methodd Halfpenny’s trosiad ond roedd gan Cymru fantais iach o bedwar pwynt ar ddeg.

Rhoddodd cais Uzair Cassiem a throsiad Pat Lambie lygedyn o obaith i’r ymwelwyr gyda deg munud i fynd wedi sgarmes symudol arall ond Cymru a gafodd y gair olaf.

Justin Tipuric a oedd chwaraewr gorau Cymru ac roedd yn haeddu ei gais wrth iddo daro’r llinell fantais ar ongl wych cyn ochr-gamu fel cwningen heibio’r dyn olaf.

Llawer o gwyno am berfformiadau Cymru felly ond tair buddugoliaeth allan o bedair yn y diwedd yng nghyfres yr Hydref.

.

Cymru

Ceisiau: Ken Owens 45’

Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 12’, 18’, 22’, 34’, 43’

.

De Affrica

Cais: Uzair Cassiem 70’

Trosiad: Pat Lambie 71’

Ciciau Cosb: Jamba Ulengo 7’, 20’

Cerdyn Melyn: Faf de Klerk 42’