Wrecsam 3–1 Forest Green  
                                                         

Sgoriodd Gerry McDonagh ddwy gôl wrth i Wrecsam guro Forest Green ar y Cae Ras yn y Gynghrair Genedlaethol brynhawn Sadwrn.

Roedd y Dreigiau ddwy gôl ar y blaen wrth droi ac felly yr oedd hi ar ddiwedd y naw deg munud hefyd wedi i’r ddau dîm sgorio gôl yr un wedi’r egwyl.

Roedd y gôl-geidwad cartref, Luke Coddington, eisoes wedi arbed cic o’r smotyn Darren Carter cyn i Shau Harrad roi Wrecsam ar y blaen wedi chwarter awr o chwarae.

Dyblwyd y fantais charter awr yn ddiweddarach gyda’r gyntaf o ddwy gôl gan McDonagh.

Rhoddodd Carter lygedyn o obaith i Forest Green hanner ffordd trwy’r ail hanner ond sicrhaodd McDonagh’r tri phwynt gyda’i ail ef a thrydedd ei dîm yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Mae Wrecsam yn aros yn bymthegfed yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol er gwaethaf y fuddugoliaeth.

.

Wrecsam

Tîm: Coddington, Edwards, Rooney, Carrington, R.Evans, Rutherford, Tilt, J.Evans, McDonagh, Harrad (Powell 66’), Bencherif

Goliau: Harrad 15’, McDonagh 30’, 90+3’

Cardiau Melyn: McDonagh 76’, R.Evans 78’

.

Forest Green

Tîm: Russell, Pinnock, Marsh-Brown, Carter, Clough, Noble, Bennett, Traore, Doidge (Tobert 73’), Wishart (Monthe 57’), Sinclair

Gôl: Carter 68’

Cerdyn Melyn: Traore 76’

.

Torf: i ddilyn