Blackpool 4–1 Casnewydd
Colli’n drwm a wnaeth Casenwydd wrth iddynt deithio i Bloomfield Road i wynebu Blackpool yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.
Gôl yr un oedd hi ar yr egwyl ond ildiodd yr Alltudion dair gôl yn yr ail hanner wrth i’r tîm cartref ennill yn gyfforddus.
Aeth Blackpool ar y blaen wedi dim ond pedwar munud gyda gôl Brad Potts o groesiad Jack Payne.
Roedd Casnewydd yn gyfartal wedi ugain munud diolch i gyn chwaraewr Cei connah, Rhys Healey.
Methodd Sean Rigg o’r smotyn i Gasnewydd ar ddechrau’r ail hanner a chafodd yr ymwelwyr eu cosbi wrth i Blackpool rwydo tair yn yr hanner awr olaf.
Rhoddodd Payne y tîm cartref yn ôl ar y blaen a dyblodd Kyle Vassell y fantais cyn i Kelvin Mellor gwblhau’r sgorio saith munud o’r diwedd.
Mae’r canlyniad yn cadw Casnewydd ar waelod tabl yr Ail Adran.
.
Blackpool
Tîm: Slocombe, Mellor, Aldred, Robertson, Taylor, Potts, Payne (McAlister 79’), Pugh, Daniel (Osayi-Samuel 77’), Vassell, Matt (Philliskirk 81’)
Goliau: Potts 4’, Payne 61’, Vassell 72’, Mellor 83’
Cardiau Melyn: Matt 26’, Taylor 55’
.
Casnewydd
Tîm: Day, Barnum-Bobb (Meite 58’), Randall (Compton 77’), Jones, Butler, Jebb, Sheehan, Tozer (Meite 58’), Rigg,Healey, O’Hanlon (Myrie-Williams 62’)
Gôl: Healey 21’
Cardiau Melyn: Jebb 40’, Randall 45’, Sheehan 80’, Jones 85’
.
Torf: 3,062