Aston Villa 3–1 Caerdydd         
                                                       

Colli fu hanes Caerdydd wrth iddynt ymweld â Pharc Villa yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.

Er i Ricky Lambert unioni pethau yn dilyn gôl agoriadol Albert Adomah fe ymatebodd y tîm cartref gyda dwy gôl o bobtu’r egwyl i gipio’r tri phwynt.

Agorodd Adomah y sgorio o groesiad Jordan Amavi hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf ond roedd Caerdydd yn gyfartal o fewn dim diolch i Lambert.

Adferodd Jonathan Kodja’r fantais toc cyn yr egwyl gyda pheniad o groesiad Adomah.

Roedd Caerdydd yn well wedi’r egwyl ond rhoddwyd cnoc i’w gobeithion pan dderbyniodd Lee Peltier ei ail gerdyn melyn chwe munud o ddiwedd y naw deg.

Sicrhaodd cyn chwaraewr yr Adar Gleision, Rydy Gestede, y fuddugoliaeth i Villa gyda chic o’r smotyn yn y munud olaf wedi trosedd ar Jack Grealish yn y cwrt cosbi.

Mae’r canlyniad yn rhoi Caerdydd yn ôl yn safleodd y gwymp, yn yr ail safle ar hugain wedi deunaw gêm.

.

Aston Villa

Tîm: Gollini, Hutton, Chester, Baker (Elphick 45’), Amavi, Jedinak, Westwood, Adomah (Gestede 75’), Grealish, Ayew (Agbonlahor 63’), Kodjia

Goliau: Adomah 24’, Kodjia 39’, Gestede 90’

Cardiau Melyn: Amavi 59’, Agbonlahor 65’, Gestede 86’

.

Caerdydd

Tîm: Amos, Peltier, Morrison, Bamba, Bennett, Pilkington (Noone 74’), Gunnarsson, Ralls (Richardson 81’), Wittingham, Hoilett, Lambert (Gounongbe 74’)

Gôl: Lambert 28’

Cardiau Melyn: Lambert 17’, Pilkington 34’, Peltier 71’, 84’, Gunnarsson 78’, Morrison 89’

Cerdyn Coch: Peltier 84’

.

Torf: 31,484