Casnewydd 0–1 Wycombe   
                                                          

Daeth rhediad da Casnewydd yn yr Ail Adran i ben wrth iddynt ildio gôl hwyr yn erbyn Wycombe ar Rodney Parade nos Fawrth.

Roedd yr Alltudion wedi ennill eu tair gêm gynghrair ddiwethaf ond sicrhaodd gôl hwyr Sido Jombati fod Wycombe yn gadael de Cymru gyda’r pwyntiau i gyd.

Wedi hanner cyntaf di sgôr, roedd hi’n ymddangos fod yr ail hanner yn mynd i orffen yr un peth. Yna, gyda dim ond dau funud o’r naw deg yn weddill fe ddaeth Jombati o hyd i’r gornel uchaf gyda chic rydd daclus.

Doedd dim digon o amser i Gasnewydd ymateb wrth iddynt golli am y tro cyntaf ers ymweliad Plymouth i Rodney Parade union fis yn ôl.

Mae’r canlyniad yn golygu bod yr Alltudion yn llithro nôl i waelod tabl yr Ail Adran.

.

Casnewydd

Tîm: Day, Barnum-Bobb, Bennett, Jones, Butler (Randall 90’), Jebb (Owen-Evans 45’), Sheehan, Tozer, Rigg, Healey, O’Hanlon (Myrie-Williams 60’)

Cardiau Melyn: Jebb 43’, Owen-Evans 71’, Sheehan 74’, Bennett 90’

.

Wycombe

Tîm: Blackman, Jombati, Stewart, Pierre, Jacobson, Bloomfield, Bean (Wood 45’), O’Nien, Thompson, Hayes (Akinfenwa 58’), Cowan-Hall (Kashket 64’)

Gôl: Jombati 88’

Cerdyn Melyn: Bean 43’

.

Torf: 2,010