Liam Williams (llun: David Davies/PA)
Mae adroddiadau y gallai’r asgellwr a chefnwr y Scarlets Liam Williams, 25 oed, arwyddo cytundeb dwy flynedd gyda’r Saracens yn Llundain ar gyfer y tymor nesaf.

Er hyn, nid oes cadarnhad gan y Saracens, ond mae lle i gredu y bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud ym mis Ionawr.

Gallai hynny olygu y byddai’n rhaid i Liam Williams gystadlu ar gyfer un o’r pedwar lle posib i chwarae dros Gymru ar gyfer y chwaraewyr sydd wedi arwyddo gyda chlybiau o’r tu allan i Gymru.

Dywedodd yr hyfforddwr cynorthwyol Neil Jenkins, “rydyn ni wedi dweud ein bod eisiau cadw’n chwaraewyr gorau yng Nghymru, ac mae Liam yn sicr yn un ohonyn nhw.”

Leigh Halfpenny?

Fe allai Leigh Halfpenny hefyd wynebu’r un broblem y flwyddyn nesaf petai yntau’n arwyddo gyda’i glwb Toulon yn hytrach na dychwelyd i Gymru.

“Os byddai Leigh yn aros (gyda Toulon) ac os byddai Liam yn gadael, yna fe fyddai’n dod yn broblem,” meddai Neil Jenkins.

“Ond yn amlwg fe allai hynny hefyd wneud cyfleoedd ar gyfer chwaraewyr eraill,” meddai.

Y chwaraewyr sy’n chwarae mewn clybiau o’r tu allan i Gymru sydd wedi’u dewis ar gyfer gemau’r hydref eleni yw Jamie Roberts o’r Harlequins, George North o Northampton a Taulupe Faletau o Gaerfaddon.