Hal Robson Kanu (llun:Joe Giddens/PA)
Mae gôl gofiadwy Hal Robson Kanu yn erbyn Gwlad Belg yn ymgyrch yr Ewros eleni wedi’u henwebu ar gyfer Gwobr Puskas Fifa.

Roedd gôl yr asgellwr, sydd bellach wedi arwyddo gyda West Brom, yn un o uchafbwyntiau buddugoliaeth 3-1 Cymru yn y chwarteri olaf yn erbyn Gwlad Belg ac a arweiniodd at y gêm gynderfynol yn erbyn Portiwgal.

Mae deg wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon, a bydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi yng ngwobrau pêl-droed Fifa ar Ionawr 9.

Nid dyma’r tro cyntaf i Hal Robson Kanu gael cydnabyddiaeth am y gôl honno, oherwydd fe enillodd y wobr am y gôl orau yng nghystadleuaeth Ewro 2016 ym marn gwylwyr Match of the Day yn gynharach eleni.