Joe Allen yn paratoi i herio'i hen glwb nos Lun
Mae rheolwr tîm pêl-droed Stoke, Mark Hughes wedi cyfaddef fod y clwb yn lwcus o fod wedi arwyddo’r chwaraewr canol cae Joe Allen.
Wrth i dîm y Potteries baratoi i herio Abertawe nos Lun, dywedodd Hughes y gallai Allen yn hawdd fod wedi dychwelyd i dde Cymru ar ôl cyfnod rhwystredig yn Lerpwl.
Ond i Stoke yr aeth Allen ar ôl helpu Cymru i gyrraedd rownd gyn-derfynol Ewro 2016 yn Ffrainc dros yr haf.
Mae Allen wedi sgorio pedair gôl yn ei bedair gêm ddiwethaf i dîm Hughes y tymor hwn.
Dywedod Hughes: “Yn amlwg, roedden ni’n bryderus am y cyswllt emosiynol hwnnw oedd ganddo fe o bosib gyda’i glwb blaenorol oherwydd iddo fe gael amser gwych yno, ond ro’n i wedi synhwyro’n gyflym iawn ar ôl i ni gael y cyfle i siarad â Joe mai ei fwriad oedd dychwelyd i chwarae bob wythnos ac roedd e wedi ein gweld ni drosto’i hun fel gwrthwynebwyr.
“Dw i’n credu ein bod ni wedi creu argraff arno fe, yn sicr yn rownd-derfynol y gwpan, ac fe welodd e ansawdd y chwaraewyr oedd gyda ni.
“Pan gawson ni sgwrs a rhoi gwybod ein bod ni’n awyddus iddo fe ddod a bod yn rhan o’r hyn ry’n ni’n ei wneud yma, dw i’n credu ei fod e wedi cofio hynny a’i fod e’n gweld sut fyddai e’n gallu ffitio i mewn.”
Mae Hughes yn cydnabod fod sgiliau Allen wedi helpu’r tîm i sicrhau pedair gêm ddi-guro y tymor hwn, er eu bod nhw’n ail ar bymtheg yn nhabl yr Uwch Gynghrair o hyd.
“Nid yn unig y mae e’n chwaraewr da iawn yn dechnegol, mae e’n chwaraewr galluog hefyd, mae e wedi ychwanegu goliau sy’n fonws gan nad oedden ni wedi rhagweld hynny.
“Mae e agwedd a’i bersonoliaeth wedi ychwanegu at y garfan hefyd.
“Ry’n ni’n teimlo’n ffodus iawn ei fod e wedi penderfynu mai ni oedd yr opsiwn orau iddo fe. Weithiau rydych chi gyda’r clwb cywir ar yr adeg gywir ar gyfer y chwaraewr cywir, a dw i’n credu mai dyna sydd wedi digwydd gyda Joe.”
Ychwanegodd Hughes mai’r “opsiwn hawdd” i Allen fyddai dychwelyd i Abertawe ond ei fod e wedi “neidio i’r tywyllwch” wrth fynd i Stoke.
Ac fe ddywedodd Hughes ei fod yn werth llawer mwy na’r £13 miliwn y talodd Stoke i’w ddenu.
Bydd Stoke yn anelu am drydedd buddugoliaeth o’r bron wrth iddyn nhw herio Abertawe nos Lun, a’r gêm yn fyw ar Sky Sports.