Aberystwyth 3–1 Airbus
Sgoriodd Luke Borrelli ddwy waith wrth i Aberystwyth drechu Airbus ar Goedlan y Parc yn Uwch Gynghrair Cymru nos Sadwrn.
Rhoddodd y blaenwr y tîm cartref ar y blaen yn yr hanner cyntaf cyn i Airbus unioni pethau toc cyn yr awr. Ond rhoddodd Borrelli ei dîm yn ôl ar y blaen cyn i Chris Jones ddiogelu’r fuddugoliaeth gyda’r drydedd ddeg munud o’r diwedd.
Aberystwyth a ddechreuodd orau ac roedd angen arbediad da gan Ryan Neild i atal Borrelli rhag agor y sgorio i’r tîm cartref.
Daeth Airbus fwyfwy i’r gêm wrth i’r hanner fynd yn ei flaen ond Aber a oedd yn edrych fwyaf bygythiol o flaen gôl o hyd a hwythau a aeth ar y blaen ddeg munud cyn yr egwyl. Croesiad Chris Jones yn dod o hyd i Borrelli wrth y postyn pellaf a’r blaenwr yn gorffen yn daclus ar y foli.
Dechreuodd y tîm cartref yr ail hanner yn dda hefyd gyda Jones yn taro’r trawst gyda chynnig da o bellter cyn i Geoff Kellaway godi cyfle euraidd dros y trawst.
Airbus yn hytrach a gafodd y gôl nesaf gyda pheniad cadarn Jonathan Spittle o gic gornel Jamie Menagh ac roedd y sgôr yn gyfartal gydag ychydig dros hanner awr i fynd.
Cafodd yr ymwelwyr chwarter awr da wedi hynny a gwastraffodd Tony Gray ddau gyfle da i’w rhoi ar y blaen.
Newidiodd y gêm chwarter awr o’r diwedd pan roddodd gôl geidwad Airbus gôl ar blât i Aber. Pasiodd Neild y bêl yn syth i lwybr Borrelli yn y cwrt cosbi a rhwydodd yntau ei ail ef ac ail ei dîm.
Ychwanegodd y tîm cartref drydedd bum munud yn ddiweddarach wedi i Jones gael ei lorio yn y cwrt cosbi gan Spittle. Cafodd yr amddiffynnwr gerdyn coch, un melyn am y drosedd ac un am gwyno, a chododd Jones ar ei draed i guro Neild o’r smotyn.
Daliodd Aber eu gafael ar y fantais yn gyfforddus yn erbyn y deg dyn wedi hynny ac mae’r canlyniad yn ddigon i’w codi i’r pumed safle yn y tabl. Mae Airbus ar y llaw arall yn aros yn y chwech isaf, yn ail o’r gwaelod.
.
Aberystwyth
Tîm: Mullock, Watts, Rodon, Clarke, Kellaway (Georgievsky 88’n, Sherbon (Bell 88’), Borrelli, Wolacott, March, Alfei, Jones (Davies 90’)
Goliau: Borrelli 35’, 75’, Jones [c.o.s.] 80’
.
Airbus
Tîm: Neild, Huley, Connolly, McGinn (Jackson 82’), Williams, Edwards, Fraughan (Montero 64’), Gray, Menagh (Wignall 73’), Murphy, Spittle
Gôl: Spittle 57’
Cardiau Melyn: Spittle 78’, 78’
Cerdyn Coch: Spittle 78’
.
Torf: 352