Alfie Mawson yn edrych ymlaen at herio cyn-ymosodwr Abertawe, Wilfried Bony
Mae amddiffynnwr canol ifanc tîm pêl-droed Abertawe, Alfie Mawson wedi dweud ei fod yn edrych ymlaen at yr her o wynebu Wilfried Bony yn Stoke nos Lun.
Chwaraeodd Mawson, 23, ei gêm gyntaf i’r Elyrch yn erbyn Watford yr wythnos diwethaf, ac fe gafodd gryn ganmoliaeth am ei berfformiad fel rhan o bartneriaeth yng nghanol yr amddiffyn gyda’r Iseldirwr Mike van der Hoorn.
Troy Deeney ac Odion Ighalo oedd ei wrthwynebwyr bryd hynny, ond fe fydd yr her o wynebu cyn-ymosodwr corfforol Abertawe, Bony yn her hollol wahanol y tro hwn.
Fe fydd pwysau ychwanegol ar ysgwyddau Mawson ar ôl i’r rheolwr Bob Bradley bwysleisio pwysigrwydd llechen lân wrth i’r Elyrch geisio’u buddugoliaeth gynta’r tymor.
Dywedodd Mawson: “Dw i’n gwybod fod Bony yn ddyn cryf iawn – dw i wedi gweld maint llinynnau ei garrau ar ‘Match of the Day’!
“Dw i’n ei barchu fe, yn union fel dw i’n parchu unrhyw wrthwynebydd. Mae’n mynd i fod yn her i fi, ond mae’n un dw i’n edrych ymlaen ati.
“Does dim ots gyda fi pwy dw i’n chwarae yn ei erbyn. Maen nhw i gyd yn bobol gyffredin.
“Dw i’n gwybod ei fod e’n chwaraewr da, ac mae gan Stoke nifer o ymosodwyr, ond os ydych chi’n gor-feddwl am wrthwynebwyr, fe wnewch chi anghofio’ch gêm eich hun.
“Fe gawson ni lechen lân yn erbyn Watford ac roedd hynny’n wych i ni. Y peth da oedd nad oedden ni’n lwcus i gael hynny – fe wnaethon ni gyfyngu eu cyfleoedd nhw.
“Ry’n ni wrth ein bodd o gael y llechen lân. Mae hynny’n eich ysgogi chi fel amddiffyn a gobeithio y gallwn ni adeiladu ar hynny nawr.”
‘Arweinydd’
Mae Bob Bradley wedi canmol agwedd Mawson, a ymunodd ag Abertawe o Barnsley ar ddechrau’r tymor.
“Meddylfryd Alfie yw y gallwn ni fod yn gryfach yn amddiffynnol fel tîm a pheidio ag ildio goliau syml, a gwella mewn chwarae gosod, a deall y gall llechen lân a chwarae gosod sicrhau triphwynt i chi.
“Dw i’n hapus iawn gyda’r hyn dw i’n ei weld yn Alfie. Am foi ifanc, mae ganddo fe bresenoldeb.
“Mae e’n camu ar y cae gyda hyder. Does dim ots pwy yw ei wrthwynebwyr, mae e’n gyffrous am yr her.
“Fe fydd y math yna o feddylfryd yn mynd â chi ymhell. Am gêm gyntaf, dw i’n credu ein bod ni i gyd yn falch drosto fe.
“Mae arweiniad yn dod ar sawl ffurf. Pan fo’r gêm yn dechrau, mae rhai chwaraewyr yn siaradus ac yn annog eu cyd-chwaraewyr i gadw’n effro ac yn cymryd cyfrifoldeb.
“Mae angen cymaint o’r math yna o arweiniad arnoch chi ag y gallwch chi ei gael. Weithiau mae gyda chi chwaraewr ifanc sydd wedi chwarae’r rôl yna mewn timau eraill. Mae hynny’n beth da [am Mawson] ry’n ni i gyd yn teimlo’n dda yn ei gylch.”