Gateshead 2–2 Wrecsam           
                                                     

Brwydrodd Wrecsam nôl i gipio pwynt oddi cartref yn erbyn Gateshead yn y Gynghrair Genedlaethol brynhawn Sadwrn.

Aeth y tîm cartref ddwy gôl ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner yn Stadiwm Rhyngwladol Gateshead cyn i Wrecsam daro nôl gyda goliau Rooney a Bencherif.

Rhoddodd Sam Jones Gateshead ar y blaen ddeg munud cyn yr egwyl cyn i Danny Johnson ddyblu mantais y tîm cartref yn gynnar yn yr ail gyfnod.

Tynnodd John Rooney un yn ôl i Wrecsam toc cyn yr awr cyn i Hamza Bencherif unioni pethau ddeg munud yn ddiweddarach.

Bu bron i Wes York adfer mantais Gateshead ond tarodd ei ymgais yn erbyn postyn ei gyn glwb.

Mae’r canlyniad yn gadael Wrecsam yn bedwerydd ar ddeg yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol.

.

Gateshead

Tîm: Hanford, Brundle, Smith, Jones, McLaughlin, Smith, York (Mafuta 82’), Atkinson (Wrightson 86’), Penn, Hannant, Johnson (Styche 75’)

Goliau: Jones 36’, Johnson 49’

.

Wrecsam

Tîm: Jalal, Edwards, Evans, Rooney, Tilt, Smith, Carrington, Bencherif, Powell, Harrad (Bailey-Nichols 55’), McDonagh

Goliau: Rooney 59’, Bencherif 69’

Cardiau Melyn: Smith 53’, Edwards 86’, Bencherif 90’

.

Torf: 832