Accrington 1–3 Casnewydd        
                                                    

Serennodd Rhys Healey wrth i Gasnewydd guro Accrington yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd cyn chwaraewr Cei Connah un gôl cyn dreu dwy arall i arwain ei dîm at fuddugoliaeth yn Stadiwm Wham.

Wedi hanner cyntaf di sgôr fe agorodd Healey’r sgorio yn gynnar yn yr ail gyfnod gydag ergyd gywir i’r gornel uchaf.

Creodd yr ail i Jazzi Barnum-Bobb toc wedi’r awr cyn i Janoi Donacien dynnu un yn ôl yn erbyn ei gyn glwb.

Sicrhaodd Josh Sheehan y tri phwynt yn hwyr yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm yn dilyn rhagor o waith creu gan y blaenwr sydd ar fenthyg o Gaerdydd.

Mae Casnewydd yn aros ar waelod tabl yr Ail Adran er gwaethaf y fuddugoliaeth, dim on eu hail yn y gynghrair y tymor hwn.

.

Accrington

Tîm: Parish, Vyner (Tyler-Fletcher 60’), Beckles, Pearson, Donacien, O’Sullivan (McCartan 69’), Conneely, Brown, McConville, Clark (Boco 69’), Gornell

Gôl: Donacien 79’

Cardiau Melyn: Gornell 44’, McCartan 85’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Bignot, Jones, Bennett, Cameron, Barnum-Bobb, Sheehan, Tozer, Rigg, Healey, Myrie-Williams

Goliau: Healey 47’, Barnum-Bobb 62’, Sheehan 90+4’

Cardiau Melyn: Rigg 57’, Myrie-Williams 65’, Sheehan 90+1’

.

Torf: 1,251