Caerdydd 0–1 Wigan
Sgoriodd Jordi Gomez gôl hwyr wrth i Wigan drechu Caerdydd yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.
Dim ond un gôl a gafwyd yn Stadiwm y Ddinas a chyn chwaraewr Abertawe o bawb gafodd hi i’r ymwelwyr.
Amddiffynnwr Caerdydd, Sol Bamba, a ddaeth agosaf at agor y sgorio mewn hanner cyntaf di sgôr ond cafodd ei beniad ei glirio oddi ar y llinell.
Caerdydd a gafodd y gorau o’r gêm wedi’r egwyl hefyd ac roedd angen arbediad da gan Adam Bogdan i atal Aaron Gunnarsson.
Ond Wigan a gafodd y gôl holl bwysig yn erbyn llif y chwarae bedwar munud o ddiwedd y naw deg. Rhedodd David Perkins i’r cwrt cosbi gyda’r bêl cyn canfod Gomez, a’r Sbaenwr yn sgorio.
Mae’r canlyniad, colled gyntaf Neil Warnock wrth y llyw, yn gadael Caerdydd yn unfed ar hugain yn nhabl y Bencampwriaeth.
.
Caerdydd
Tîm: Amos, Peltier, Morrison, Bamba, Bennett, Noone (Immers 84’), Wittingham (O’Keefe 72’), Gunnarsson, Ralls, Hoilett (Harris 72’), Pilkington
.
Wigan
Tîm: Bogdan, Burke, Buxton, Burn, Warnock, MacDonald, Perkins, Jacobs (Jacobs 90’), Jordi Gomez, Wildschut (Byrne 57’), Grigg (Davies 73’)
Gôl: Jordi Gomez 86’
.
Torf: 15,969