Fe fydd gallu Geoff Cameron i addasu i safleoedd newydd o gymorth i reolwr tîm pêl-droed Stoke Mark Hughes y tymor hwn, yn ôl rheolwr Abertawe, Bob Bradley. Dyna un o’r pethau sydd ar ei feddwl wrth iddo wneud cyfweliad â golwg360.
Mae amheuon am ffitrwydd yr Americanwr wrth i’r Elyrch baratoi i deithio i ganolbarth Lloegr nos Lun, Calan Gaeaf, wedi iddo anafu’i ben-glin yr wythnos ddiwetha’ yn y gêm yn erbyn Hull. Er ei fod wedi dechrau ymarfer unwaith eto, amser a ddengys a fydd e’n ddigon ffit i wynebu Abertawe nos Lun.
Fel amddiffynnwr canol cae y mae Bradley yn gweld Cameron, ar ôl iddyn nhw gydweithio gyda charfan yr Unol Daleithiau yn 2010, ond fel cefnwr de y cafodd ei ddewis yn bennaf ers iddo symud i Stoke yn 2012.
Serch hynny, fe allai penderfyniad y Cymro Mark Hughes i’w symud i ganol y cae ddwyn ffrwyth, meddai Bradley, wrth i Stoke geisio dringo tabl yr Uwch Gynghrair ar ôl cyfnod yn y gwaelodion.
‘Cystadleuol ac amlochrog’
Meddai Bob Bradley wrth golwg360: “Yn ystod rhan ola’ fy nghyfnod gyda thîm yr Unol Daleithiau, fe ddes i â fe mewn nifer o weithiau. Roedd e newydd ddechrau gwneud enw iddo’i hun yn MLS.
“Yn MLS mae gyda chi wersylloedd ym mis Ionawr. Yr hyn fyddai gyda ni fyddai chwaraewyr yn bennaf o’r MLS ond rhai eraill o glybiau Sgandinafia hefyd.
“Fe fyddech chi’n dod â chwaraewyr i mewn oedd ar y radar i gael eu gweld nhw a dechrau eu cyflwyno nhw. Yna fe fyddech chi’n defnyddio’r gwersyll ar gyfer gemau cymhwyso neu’r Gold Cup neu Gwpan y Byd neu beth bynnag, i weld lle byddai chwaraewyr yn ffitio i mewn.
“Dw i’n cofio bod Geoff wedi cael anaf mewn un gwersyll felly wnaeth e ddim dangos popeth oedd gyda fe. Ond ro’n i’n gwybod ei fod e’n chwaraewr dawnus fyddai’n parhau i dyfu.
“Mae e’n foi cystadleuol, mae e’n amlochrog. Ar y pryd, dw i’n cofio meddwl yn y pen draw mai ei safle gorau fyddai yng nghanol yr amddiffyn, ac mae e hefyd yn teimlo ei fod e’n amddiffynnwr canol da iawn. Ond mae e wedi cael ei ddefnyddio mewn amryw safleoedd mewn nifer o dimau gwahanol.
“Yn nhîm yr Unol Daleithiau’n ddiweddar, fel amddiffynnwr canol mae e wedi cael ei ddefnyddio’n bennaf ond mae e’n gystadleuol dros ben.
“Pan fydd e yng nghanol cae, mae e’n taclo’n dda iawn mewn safle amddiffynol, ac mae e’n dda mewn chwarae gosod.”
“Cameron ydi uchelgais yr Americanwyr”
Yn ôl Bob Bradley, mae Geoff Cameron yn ymgorffori uchelgais Americanwyr yr MLS i ddatblygu eu gyrfa yn Ewrop yn rhai o gynghreiriau gorau’r byd.
“Pryd bynnag ry’ch chi’n edrych ar chwaraewyr Americanaidd sydd â’r meddylfryd eu bod nhw’n mynd i Ewrop i brofi eu hunain, dyna daro’r hoelen ar ei phen i fi.
“Mae MLS wedi tyfu, mae’r gynghrair yn symud i’r cyfeiriad cywir ond mae’n bwysig o hyd fod chwaraewyr yn gweld yr angen am yr her nesaf ac i fi, mae hynny’n golygu dod i Ewrop, ac mae Geoff wedi gwneud hynny’n dda iawn.”
Hawdd tanbrisio’i werth
Fe gafodd sylwadau Bob Bradley eu hategu gan Mark Hughes, sy’n dweud ei bod yn hawdd tanbrisio gwerth chwaraewr fel Cameron sy’n gallu chwarae mewn nifer o safleoedd.
Ers i Cameron symud i ganol y cae at Glenn Whelan, mae Stoke City wedi bod yn ddiguro mewn pedair gêm.
Dywedodd Mark Hughes wrth y Stoke Sentinel: “Y peth yw gyda Geoff, weithiau gallwch chi danbrisio’r effaith mae e’n gallu ei gael ar gemau o ran symud o gwmpas y cae a thorri pethau i fyny. Mae e’n effeithiol wrth wneud hynny mewn safleoedd mwy amddiffynol fel cefnwr neu amddiffynnwr canol ond dw i’n credu ein bod ni’n tanbrisio’i werth e i’r tîm weithiau.”
Ond mae Mark Hughes yn cyfadde’ y gallai Cameron orfod dioddef poen pe bai e’n cael ei ddewis nos Lun.
“Mae e mewn ychydig o boen ac fe fydd rhaid i hynny setlo cyn y bydd e’n gallu chwarae. Ond rydan ni’n gobeithio’i gael e’n ôl ar laswellt erbyn dydd Sadwrn neu ddydd Sul.
“Bydd e mewn rhywfaint o boen ond os yw e’n gallu ymdopi â hynny ac nad yw’n ei rwystro fe’n ormodol yn nhermau’r hyn mae e am ei wneud ar y cae, yna fe ddylai e fod yn iawn.”