Mae Bob Bradley wedi dweud ei fod “wedi cyffroi” ar ôl y cyhoeddiad swyddogol ddyd Gwener mai ef fydd rheolwr Clwb Pêl-droed Abertawe.

Mae Bob Bradley’n mynnu mai nad y ffaith ei fod yn Americanwr oedd yr unig reswm tros iddo gael ei benodi’n olynydd i Francesco Guidolin, a gafodd ei ddiswyddo ar ei ben-blwydd yn 61 oed ddydd Llun.

Ddechrau’r wythnos, roedd Bob Bradley, 58, yn rheolwr ar Le Havre yn ail adran Ffrainc, ond bellach ef yw’r Americanwr cynta’ i reoli clwb yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Mae Abertawe’n ail ar bymtheg yn y gynghrair ar hyn o bryd, ac Arsenal fydd gwrthwynebwyr cyntaf Bob Bradley wrth y llyw ar ôl y toriad am gemau rhyngwladol.

“Dw i ddim yn arloeswr, dw i ddim yn rheolwr Americanaidd, dw i’n rheolwr pêl-droed,” meddai.

“Wrth i fi ddod yma, does gan neb yn Abertawe ots o gwbwl beth mae unrhyw un yn yr Unol Daleithiau’n ei feddwl.

“Maen nhw’n gofalu am eu clwb a dw i yma i roi popeth i’r cefnogwyr, i’r clwb ac allwn i ddim bod wedi cyffroi yn fwy ynghylch y cyfle.”

Cyfaddefodd bod y sgwrs am swydd rheolwr Abertawe wedi cychwyn cyn i’r Elyrch golli yn erbyn Lerpwl, ond fe ddywedodd hefyd ei fod yn gobeithio bryd hynny y byddai Abertawe’n ennill y gêm honno ac na fyddai’n rhaid iddo ddod i mewn.

“Does neb eisiau cael swydd am eu bod nhw wedi colli gemau.”