Fe gafodd Cymru help gan Awstria wrth iddyn nhw ddod adref â phwynt o’r frwydr yn Fienna heno.
Joe Allen oedd y cynta’ i sgorio tros Gymru, ar ol 22 o funudau, cyn i Arnautovic unioni’r cam ar ran Awstria chwe munud yn ddiweddarach.
Ac yna, yn yr amser ychwanegol cyn hanner amser, fe sgoriodd Wimmer i’w rwyd ei hun er mwyn rhoi Cymru ar y blaen, 1-2.
Ond fe ddechreuodd Awstria’n gry’ yn yr ail hanner, gydag Arnautovic yn sgorio eilwaith i ddod â’r ddwy ochr yn gyfartal, 2-2.
Hanner anodd fu’r ail un i Gymru wedyn, gyda Joe Allen yn gorfod gadael y cae wedi 55 o funudau gydag anaf, a Dave Edwards yn dod ymlaen yn ei le. Mae’n ymddangos y bydd yn rhaid i Gymru wynebu Georgia yng Nghaerdydd heb Ramsey nac Allen ddydd Sul.
Fe gafodd Gareth Bale awr a hanner egnïol, yn gwneud rhediadau i lawr yr asgell dde ac yn taflu i mewn yn greadigol, ond roedd amddiffyn Awstria ar ei ben bob gafael.
Fe ddaeth Sam Vokes oddi ar y cae wedi 77 munud, ac fe groesawyd Hal Robson-Kanu i’r maes yn ei le. Wedi 90 munud, fe gafodd Emyr Huws ei gyfle i ymestyn ei goesau, wrth i Neil Taylor adael y cae cyn 5 munud o amser ychwanegol.
Er bod eu sgoriwr dwbwl, Arnautovic, wedi gadael y cae, fe fu Awstria’n pwyso tan y chwiban ola’. Pwyso gormod wnaeth Janko, a gafodd garden felen am drosedd yn erbyn Gunter. Fe gafodd Cymru eu gwobrwyo â chic rydd, ond ddaeth dim o feddiant soled Cymru hyd y diwedd i newid dim ar y sgor.